Mewn ffiseg, gofod-amser (Saesneg: spacetime) yw'r cysyniadau hynny lle cyfunir amser a gofod yn un ddamcaniaeth, a lle mae sawl model mathemategol yn plethu drwy'i gilydd.
Hyd at 20g roedd gofod 3-dimeniswn yn gysyniad hollol ar wahân i'r cysyniad o amser; newidiwyd hynny pan gyhoeddwyd damcaniaeth perthnasedd arbennig Einstein, a ysbrydolodd Hermann Minkowski, yn 1908, i gyfuno'r ddau mewn cyfuniad o gysyniadau unedig a elwir heddiw yn 'ofod-amser' neu'n ofod-Minkowski.
Enghraifft o'r canlynol | spacetime region, continwwm |
---|---|
Math | model mathemategol |
Rhan o | bydysawd |
Yn cynnwys | Gofod, amser |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i disgrifiwyd gan rai gwyddonwyr fel 'defnydd realaeth' (the fabric of reality). Mae'r ddamcaniaeth hefyd wedi cynorthwyo'r gwyddonydd i symlhau llawer o gysyniadau eraill ynglŷn â'r bydysawd, a hynny o'r enfawr, i'r mawr i'r bach: o uwchalaethau i fater isatomig. Fel y rhan fwyaf o gysyniadau, gellir ei egluro gyda mathemateg neu drwy ei ddarlunio'n weledol; efallai mai'r darlun mwyaf poblogaidd o ofod-amser yw haen denau o rwber ystwyth sy'n rhoi pan roddir mas arni. Disgyrchiant yw'r mas, yn y ddelwedd hon, gyda gofod-amser yn cael ei warpio neu ei blygu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gofod-amser, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.