Bardd ac athro Eidalaidd oedd Giosuè Carducci (27 Gorffennaf 1835 – 16 Chwefror 1907).
Roedd yn ddyn dylanwadol iawn ac ystyrid ef fel y bardd cenedlaethol. Enillodd Carducci Wobr Lenyddol Nobel yn 1906, ac ef oedd yr Eidalwr cyntaf i'w hennill.
Giosuè Carducci | |
---|---|
Ffugenw | Enotrio Romano |
Ganwyd | Giosuè Alessandro Giuseppe Carducci 27 Gorffennaf 1835 Valdicastello Carducci, Pietrasanta |
Bu farw | 16 Chwefror 1907 Bologna, Pietrasanta |
Man preswyl | Casa Carducci |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Addysg | laurea |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, newyddiadurwr, gwleidydd, academydd, beirniad llenyddol, ieithegydd |
Swydd | aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, seneddwr ym Mrenhiniaeth yr Eidal |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Historical Far Left |
Tad | Michele Carducci |
Mam | Ildegonda Celli |
Priod | Elvira Menicucci |
Plant | Beatrice Carducci, Libertà Carducci |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Valdicastello di Pietrasanta. Meddyg oedd ei dad ond roedd hefyd yn ymwneud â'r Carbonari a chredodd yn gryf mewn Eidal unedig. Oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol, gorfodwyd ei deulu i symud cartref sawl gwaith pan oedd Giosuè'n ifanc, gan sefydlu yn y diwedd yn Florence.
Cariad at wlad yw'r elfen bwysicaf yn ei waith, a chariad at harddwch, natur a bywyd.. Bu farw yn Bologna yn 71 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Giosuè Carducci, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.