Dinas yn rhanbarth Abchasia, yng ngorllewin y Georgia hanesyddol, yw Gagra (Abchaseg a Rwseg: Гагра, Georgeg:გაგრა).
Gorwedd ar lan ogledd-ddwyreiniol y Môr Du, wrth droed Mynyddoedd Caucasus. Mae Gagra'n ran o ardal ehangach gyda'r un enw. Mae Abchasia'n weriniaeth sydd wedi torri i ffwrdd o Georgia, er ei bod, yn rhyngwladol, yn dal i gael ei hadnabod yn swyddogol fel rhan o'r wlad honno. Roedd poblogaeth o 26,636 yn 1989, ond mae hyn wedi disgyn llawer ers hynny oherwydd carthu ethnig y Georgiaid o Abchasia.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 11,959, 3,659, 26,636, 24,409, 23,025, 14,023, 9,808 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Ikaalinen, Vladimir |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Abchaseg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abkhaz Autonomous Soviet Socialist Republic, Socialist Soviet Republic of Abkhazia, Principality of Abkhazia, Black Sea Governorate, Gagra Municipality |
Gwlad | Georgia |
Gerllaw | Afon Reprua |
Cyfesurynnau | 43.28333°N 40.26667°E |
Cod post | 6700–6799 |
Sefydlwyd y dref fel gwladfa Roegaidd hynafol o'r enw Triglite yn wreiddiol, a gyfaneddwyd gan Groegiaid a Colciaid. Daeth dan lywodraeth teyrnas Pontus yn y ganrif gyntaf OC cyn cael ei llyncu'n ran o'r Ymerodraeth Rufeinig, pryd ailenwyd y dref yn Nitica. Fe achosodd ei lleoliad daearyddol i'r Rhufeiniad ei atgyfnerthu fel caer, a chafwyd ymosodiadau aml arni gan y Gothiaid a goresgynwyr eraill. Ar ôl i Rufain syrthio, cymerodd ei holynydd, yr Ymerodraeth Fysantaidd, reolaeth o'r dref. Ynghyd â gweddill Abkhazia, cyfunwyd Gagra yn rhan o deyrnas Georgiaidd Imereti o'r 9g ymlaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gagra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.