Bardd, dramodydd, hanesydd ac athronydd oedd Johann Christoph Friedrich von Schiller (10 Tachwedd 1759 - 9 Mai 1805).
Friedrich Schiller | |
---|---|
Ganwyd | Johann Christoph Friedrich Schiller 10 Tachwedd 1759 Marbach am Neckar |
Bu farw | 9 Mai 1805 o diciâu Weimar |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Württemberg, Saxe-Weimar |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | bardd, athronydd, hanesydd, llyfrgellydd, meddyg ac awdur, dramodydd, nofelydd, academydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, meddyg, meddyg yn y fyddin, esthetegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Robbers, Don Carlos, Wallenstein, Mary Stuart, Gwilym Tel, Intrigue and Love, On the aesthetic education of man, Die Huldigung der Künste, The Maid of Orleans |
Arddull | baled, drama |
Prif ddylanwad | Karl Leonhard Reinhold, Pedro Calderón de la Barca, Johann Wolfgang von Goethe, Immanuel Kant |
Mudiad | Sturm und Drang, Weimar Classicism |
Tad | Johann Kaspar Schiller |
Mam | Elisabeth Dorothea Schiller |
Priod | Charlotte von Lengefeld |
Plant | Emilie von Gleichen-Rußwurm, Ernst von Schiller, Karl Von Schiller, Caroline Junot |
Perthnasau | Johann Friedrich Schiller |
llofnod | |
Cafodd ei eni ym Marbach am Neckar, Yr Almaen yn fab i'r meddyg Johann Kaspar Schiller (1733-1796), a'i wraig Elisabeth Dorothea Kodweiß (1732-1802). Fe'i galwyd ar ôl Ffredrig II, brenin Prwsia ond galwyd ef gan bawb yn Fritz. Roedd tad Schiller yn gweithio i'r fyddin Schwäbisch Gmünd a symudodd y teulu ato yn 1763, ar derfyn y rhyfel, i le o'r enw Lorch. Yn Lorch, derbyniodd Schiller addysg cynradd o safon isel, felly, trefnodd ei rieni iddo dderbyn addysg gan offeiriad: mewn Lladin a Groeg. Sgwennodd Schiller am Pastor Moser yn ei ddrama cyntaf: Die Räuber (Y Lladron) Am gyfnod, roedd Schiller yn awyddus i ddilyn ôl traed ei athro a mynd yn offeiriad. Symudodd y teulu i Ludwigsburg. a daeth i sylw Charles Eugene, Dug Württemberg a drefnodd iddo fynd i'r coleg milwrol Karlsschule Stuttgart yn 1773 i astudio meddygaeth. Bu'n ddyn sâl am y rhan fwyaf o'i fywyd a cheisiodd wella'i hyn ar bob achlysur.
Roedd yn ffrind i'r gŵr dylanwadol Johann Wolfgang von Goethe am 17 mlynedd olaf ei fywyd: rhwng 1788–1805. Roedd y cyfeillgarwch hwn yn un cymhleth, a sbardunodd lawer o drafodaethau am estheteg; gelwir hyn heddiw yn Weimar Classicism. Datblygodd y ddau syniadau eraill hefyd gan gynnwys Xenien, sef casgliad o gerddi byr, athronyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Friedrich Schiller, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.