Pedwerydd albwm y gyfansoddwraig Fflur Dafydd yw Ffydd, Gobaith, Cariad.
Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Rasal.
Ffydd, Gobaith, Cariad | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Fflur Dafydd | ||
Rhyddhawyd | Mehefin 2012 | |
Label | Rasal |
Mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn ddatblygiad pellach yn y sŵn arbennig mae Fflur bellach wedi’i greu i’w hun. Mae’r casgliad yn un teimladwy sy’n cynnwys teyrngedau i nifer o bobl, ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y gân ‘Ray o’r Mynydd’ er cof am Ray Gravell a’i fersiwn gerddorol o lythyr Paul at y Corinthiaid, ‘Ffydd, Gobaith, Cariad’.
Dewiswyd Ffydd, Gobaith, Cariad yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.
Mae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.
—Ifan Edwards, Y Selar
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffydd, Gobaith, Cariad (albwm), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.