Mae esgoriad ffolennol yn digwydd pan gaiff babi ei eni tin yn gyntaf yn hytrach na phen yn gyntaf.
Ffolen (lluosog: ffolennau) yw boch tin / pen ôl.
Math | obstructed labor, Cyflwyniad y ffetws, malpresentation of fetus |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bydd gan ryw 3-5% o ferched beichiog yn ystod eu llawn dymor (37-40 wythnos yn feichiog) babi sy’n cyflwyno ar ei ffolennau. Caiff y rhan fwyaf o fabanod yn y safle ffolennol eu geni trwy doriad Cesaraidd gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy diogel na geni trwy'r wain.
Mae mathau gwahanol o gyflwyniad ffolennol sy'n dibynnu ar sut mae coesau'r babi yn gorwedd.
Mewn tua 50% o achosion, ni ellir canfod achos dibynadwy am esgor ffolennol. Mewn mwy na 50% o achosion bydd y fam yn esgor ar ei phlentyn cyntaf-anedig. Mewn astudiaeth Norwyaidd, dangoswyd bod perthynas genetig neu deuluol: roedd dynion a menywod, a oedd wedi eu hesgor yn ffolennol 2.3 gwaith mwy tebygol o gael plentyn trwy esgoriad ffolennol na'r rhai a anwyd pen yn gyntaf.
Mae ffactorau posib, sy'n ymwneud a'r plentyn a'r groth am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys:
Mae ffactorau mamol posibl am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys gamffurfiad y pelfis, tiwmorau cenhedlol a phelfig neu gamffurfiad y groth.
Mae'r rhan fwyaf o fabanod sydd yn cyflwyno'n ffolennol wedi 32 i 34 wythnos yn troi eu hunain i fod yn y safle pen yn gyntaf.
Os yw'r babi yn dal i fod yn y safle ffolennol wedi 37 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i obstetregydd ei droi yn ben i lawr gan ddefnyddio techneg o'r enw fersiwn ceffalig allanol (external cephalic version neu ECV).. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel obstetregydd, yn ceisio troi'r babi i mewn i safle pen-i-lawr trwy roi pwysau ar yr abdomen. Mae'n weithdrefn ddiogel, er y gall fod ychydig yn anghyfforddus. Gellir troi tua 50% o fabanod ffolennol trwy ddefnyddio ECV, gan ganiatáu geni normal trwy'r wain.
Os bydd babi yn parhau i fod yn safle ffolennol tuag at ddiwedd beichiogrwydd, bydd y fam yn cael cynnig opsiwn toriad Ceseraidd. Mae ymchwil wedi dangos bod toriad Ceseraidd a gynlluniwyd yn fwy diogel ar gyfer y babi nag esgoriad ffolennol trwy'r wain.
Mae modd i esgor baban sydd yn cyflwyno'n ffolennol trwy'r wain. Mae meddygon yn cynghori'n gryf rhag yr opsiwn hwn os yw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Esgoriad ffolennol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.