Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Elin Wägner (16 Mai 1882 - 7 Ionawr 1949) a oedd yn newyddiadurwr, yn berson cyhoeddus, yn ecolegydd cynnar ac yn heddychwraig.
Fe'i derbyniwyd yn rhan o Academi Sweden yn 1944.
Elin Wägner | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1882 Lund Cathedral parish |
Bu farw | 7 Ionawr 1949 Berg parish |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | seat 15 of the Swedish Academy |
Tad | Sven Wägner |
Priod | John Landquist |
Gwobr/au | Prif Gwobr Samfundet De Ni |
Ganed Elin Matilda Elisabet Wägner yn Lund yn ne Sweden ar 16 Mai 1882 a bu farw yn Kronoberg ac fe'i claddwyd ym Mynwent Norra.
Roedd yn ferch i brifathro ysgol, a phan oedd yn dair oed, bu farw ei mam. Bu'n briod i John Landquist.
Sefydlodd Rädda Barnen, sy'n cyfateb i Gynghrair Rhyngwladol Save the Children, ac am ddatblygu Ysgol y Dinesydd Benywaidd yn Fogelstad, ble dysgai hawliau sifil, fel pwnc. Mae llyfrau ac erthyglau Wägner yn canolbwyntio ar bynciaun ymwneud â menywod, hawliau sifil, pleidleisiau (etholfraint) i fenywod, y mudiad heddwch, lles, a llygredd amgylcheddol. Ynghyd â Fredrika Bremer, ystyrir Wägner yn aml yr arloeswr ffeministaidd pwysicaf a mwyaf dylanwadol Sweden.
Bu'n gyfrifol am sefydlu a golygu'r cylchgrawn Tidevarvet rhwng 1924 a 1927.
Roedd yn awdur toreithiog, ac ysgrifennodd nifer o nofelau (a dramau-ffilm) sy'n parhau i gael eu darllen heddiw. Y mwyaf poblogaidd yw:
Bu'n aelod o Academi Swedeg, Cymdeithas Y Naw a Chartref y Swedeg, am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Elin Wägner, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.