Elfen Cyfnod 1

Elfen gemegol yn y rhes gyntaf o'r tabl cyfnodol ydy elfen cyfnod 1.

Mae'r tabl cyfnodol wedi'i osod mewn rhesi taclus er mwyn dangos patrymau yn ymddygiad y gwahanol elfennau, wrth i'w rhifau atomig gynyddu. Pan fo'r ymddygiad yn cael ei ailadrodd, dechreuir rhes newydd. Mae'r elfennau sydd ag ymddygiad tebyg, felly, o dan ei gilydd, mewn colofnau.

Mae llai nag arfer o elfennau yn y ddwy res gyntaf. Dau yn unig sydd yn rhe un: hydrogen a heliwm.

Yr elfennau

Hydrogen

Hydrogen (H) ydy'r elfen gemegol sydd â rhif atomig o 1. O dan amgylchiadau arferol y labordy (h.y. pwysedd a thymheredd arferol) does ganddo ddim lliw, blas nac arolg; mae'n elfen anfetel a gellir ei roi ar dân yn hawdd. Mae hefyd yn nwy diatomig sydd a'r fformiwla: H2. 1.00794 amu ydy ei más atomig a hydrogen ydy'r elfen ysgafnaf ohonyn nhw i gyd.

Ceir mwy ohoni nag unrhyw elfen arall yn y bydysawd: tua 75% o fas y bydysawd. Mae hydrogen yn rhan o ddŵr a'r holl gyfansoddion organig, a'r holl organebau byw sydd ar y Ddaear. Mae sêr yn cynnwys hydrogen gan amlaf hefyd. Mae pobl ei defnyddio wrth gynhyrchu amonia, ac wrth greu tanwydd.

Mae'r enw yn dod o'r Groeg ὕδωρ (hudôr) (dŵr), a gennen (creawdwr).

Isotop mwyaf cyffredin hydrogen ydy protiwm, ac mae ganddo un proton a dim niwtron. Mewn cyfansoddion ionig gall gymryd gwefr bositif (gan droi'n cation neu gegydd (gan droi'n anion). Drwy broses o yrru drydan i fewn i ddŵr, proses a elwir yn electrolysis, gellir rhyddhau'r hydrogen a'r ocsigen yn hawdd. fe welir ar unwaith fod dwywaith cymaint o hydrogen nag o ocsigen.

Heliwm

Mae heliwm, hefyd yn ddi-liw, di-flas na diarogl ac nid ydyw'n docsig. Mae'n elfen inert monatomig ac ar ben rhestr y nwyon nobl yn y tabl cyfnodol.

Ei symbol ydy He a rhif 2. Mae'n elfen anadweithiol oherwydd bod ganddo blisgyn falens llawn. Gan ei fod yn anadweithiol a llai dwys nag aer defnyddir heliwm mewn balwnau tywydd. Er bod hydrogen yn nwy llai dwys, nid yw'n addas gan ei fod mor adweithiol a fflamadwy, priodweddau a arweiniodd at ffrwydrad y llong awyr Hindenberg.

Mae'r enw yn dod o'r gair Groeg am "haul", sef ἥλιος (helios), achos cafodd ei ddarganfod yn 1868 gan yr astronomegydd Ffrengig Pierre Janssen wrth astudio'r sbectrwm lliw'r haul, a hynny cyn iddo gael ei ddarganfod ar y ddaear. Fe'i ffurfir yng nghanol yr haul pan mae hydrogen yn adweithio.

Mae ei ferwbwynt a'i bwynt ymdoddi ymhlith yr isaf o'r holl elfennau a dim ond fel nwy y mae'n bodoli, fel rheol.

Yn 1903 canfuwyd ffynhonnell enfawr ohono yn yr Unol Daleithiau sy'n golygu mai ganddyn nhw mae'r ffynhonnell fwyaf o'r nwy hwn drwy'r byd.

Dyma'r ail elfen ysgafnaf a chredir ei fod yr ail fwyaf cyffredin yn y bydysawd. Crewyd y rhan fwyaf o heliwm yn ystod y big bang, ond caiff ei gynhyrchu heddiw drwy ymasiad niwclear yn y sêr.

Nodiadau

Ffynonellau

  • Llyfr: Organic Chemistry Demystified gan Bloch, D. R., 2006; cyhoweddyr: McGraw-Hill Professional; isbn 0-07-145920-0. [1]

Tags:

Elfen Cyfnod 1 Yr elfennauElfen Cyfnod 1 NodiadauElfen Cyfnod 1 FfynonellauElfen Cyfnod 1Elfen gemegolRhif atomigTabl cyfnodol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Roxbury Township, New JerseyCedar County, NebraskaClark County, OhioHindŵaethMakhachkalaWenatchee, WashingtonThe Bad SeedMeigs County, OhioJapanCymdeithasegLucas County, IowaWashington (talaith)Geauga County, OhioEdward BainesJosephusTeiffŵn HaiyanFeakleJohn DonneEmma AlbaniBoeremuziekCaeredinVan Wert County, OhioElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigBukkakeMichael JordanEscitalopram25 MehefinBrandon, De DakotaThe Shock DoctrineJohn ArnoldGary Robert Jenkins20 GorffennafTywysog CymruDydd Iau CablydTom HanksMedina County, OhioWinslow Township, New JerseyLouis Rees-ZammitTunkhannock, PennsylvaniaDie zwei Leben des Daniel ShoreY DdaearCoeur d'Alene, Idaho1410Ida County, IowaMaes awyrBeyoncé KnowlesGertrude BaconLumberport, Gorllewin VirginiaJuventus F.C.ArthropodPwyllgor TrosglwyddoMehandi Ban Gai KhoonUnion County, OhioZeusCeidwadaethRhufainKarim BenzemaPiCymruRhyw llawBaner SeychellesYr AntarctigJefferson Davis1605Gwlad PwylGreensboro, Gogledd CarolinaIndonesegHanes yr ArianninFaulkner County, ArkansasJulian Cayo-EvansJohn Alcock (RAF)Papurau Panama🡆 More