Dinas yng nghanolbarth Albania yw Elbasan (Albaneg: Elbasan neu Elbasani).
Mae'n gorwedd ar lannau Afon Shkumbin yn Ardal Elbasan a Swydd Elbasan (41°06′Gog, 20°04′Dwy). Elbasan yw'r ddinas drydedd fwyaf yn Albania, gyda phoblogaeth o tua 100,000 (amcangyfrifiad 2003) ac arwynebedd o 1,290 km².
Delwedd:Elbasan 1.jpg, Albania (Elbasan County).svg | |
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 78,703 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Elbasan municipality |
Gwlad | Albania |
Uwch y môr | 150 metr |
Cyfesurynnau | 41.1125°N 20.0822°E |
Cod post | 3001–3006 |
Roedd yn gorwedd ar y Via Egnatia yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae sawl enw ar ydref; Neokastron (Νεόκαστρον "Castell Newydd") yn Groeg, Novigrad ("Dinas Newydd") yn Slafeg a Terra Nuova ("Tir Newydd") yn Eidaleg. Daw'r enw cyfoes o'r Twrceg, il-basan ("y gaer").
Dechreuodd datblygiad diwydiannol yn ystod y teyrnasiad y Brenin Zog gyda chynhyrchu tybaco a diodydd alcoholig, a daeth i ben yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol. Enillodd y ddinas amlygrwydd ar ôl adeiladu melin ddur yno yn 1974 yn ogystal â diwydiannau eraill.
Roedd y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer diwydiant trwm yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol, gan ganolbwyntio ar ffatrïoedd prosesu metelegol a metel yn bennaf. Achosodd pob un o'r diwydiannau hyn lygredd mawr ac ystyrir mai Elbasan yw un o ddinasoedd mwyaf llygredig Albania heddiw.
Yn dilyn yr angen i uwchraddio stadiwm yn y wlad ar gyfer safonau UEFA bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania gynnal gemau rhyngwladol mewn stadiymau eraill yn y wlad. Dewisiwyd adnewyddu Stadiwm Ruzhdi Bizhuta yn Elbasan. Dyma stadiwm y tîm cartref KF Elbasani. Yn 2014 agorwyd stadiwn newydd yr Elbasan Arena ar gyfer gemau rhyngwladol.
|
Dinasoedd Albania | |
---|---|
Apollonia · Bajram Curri · Ballsh · Berat · Bilisht · Bulqizë · Burrel · Butrint · Cërrik · Çorovodë · Delvinë · Durrës · Elbasan · Ersekë · Fier · Fushë-Krujë · Gjirokastra · Gramsh · Himarë · Kamzë · Kavajë · Këlcyrë · Klos · Konispol · Koplik · Korçë · Krujë · Krumë · Kuçovë · Kukës · Laç · Lezhë · Libohova · Librazhd · Lushnjë · Maliq · Mamurras · Mavrovë · Memaliaj · Patos · Peqin · Peshkopi · Përmet · Pogradec · Poliçan · Pukë · Rrëshen · Rrogozhinë · Roskovec · Sarandë · Selenicë · Shëngjin · Shijak · Shkodër · Tepelenë · Tiranë · Tropojë · Valbonë · Vlorë |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Elbasan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.