Casgliad o gerfluniau efydd a phres o ddiwylliant y bobl Edo yw Efyddau Benin a fu'n addurno'r palas brenhinol yn Nheyrnas Benin yng Ngorllewin Affrica o'r 16g i'r 19g.
Maent yn cynnwys miloedd o blaciau addurnedig, pennau, ffigurau o bobl ac anifeiliaid, teyrndlysau, ac addurniadau personol.
Enghraifft o'r canlynol | group of sculptures |
---|---|
Math | cerfddelw, cerfwedd |
Deunydd | copper alloy |
Lleoliad | Amgueddfa Ethnolegol Berlin, yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol Nigeria |
Rhanbarth | Benin City |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhyrchwyd Efyddau Byddin gan gerflunwyr metel o'r urddau crefft a oedd yn gweithio i lys yr Oba (brenin) yn Ninas Benin, a leolir bellach yn Nigeria. Derbyniwyd nawdd brenhinol hefyd gan urddau a oedd yn arbenigo mewn defnyddiau eraill, megis ifori, lledr, cwrel, a phren, ac weithiau defnyddir y term Efyddau Benin i grybwyll pethau a gynhyrchwyd gan y rheiny. Comisiynwyd nifer o'r celfi ar gyfer allorau teuluol yr hen frenhinoedd a mam freninesau, ac mae'r placiau yn cynnwys tystiolaeth o freninllinau ac hanes cymdeithasol y deyrnas.
Daeth Efyddau Benin dan feddiant yr Amgueddfa Brydeinig ac amgueddfeydd eraill ar draws Ewrop yn sgil ysbeilio Dinas Benin gan luoedd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1897. Cedwir rhyw 900 o gelfi a gipiwyd o Benin o hyd yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig. Mae Ewuare II, Oba Benin ers 2016, wedi galw ar amgueddfeydd a chasglwyr preifat i ddychwelyd Efyddau Benin i Nigeria. Yn 2023, cyhoeddodd Muhammadu Buhari, Arlywydd Nigeria, ddatganiad i gydnabod yr Oba yn berchennog cyfreithlon ar Efyddau Benin, ac yn mynnu y dylai unrhyw o'r trysorau a ddychwelir i Nigeria gael ei trosglwyddo i feddiant yr Oba.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Efyddau Benin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.