Stryd yn Ninas Westminster yng nghanol Llundain sy'n gartref i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Stryd Downing (Saesneg: Downing Street).
Lleolir y stryd yn Westminster ger y Whitehall, cartref Gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Yma ceir cartref swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhif 10 Stryd Downing a chartref Canghellor y Trysorlys y drws nesaf, yn 11 Stryd Downing. Cafodd y stryd enwog ei henwi ar ôl y gwladweinydd o Sais Syr George Downing (1623–1684). Ar lafar mae'r ymadrodd "Downing Street" bron yn gyfystyr â Llywodraeth y DU.
Math | stryd, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Syr George Downing, Barwnig 1af |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Whitehall |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5033°N 0.1275°W |
Credir fod mynediad i rwydwaith mawr o dwneli a siambrau tanddaearol yn Stryd Downing, ar gyfer y llywodraeth a phwysigion eraill mewn amser argyfwng.
Ar un adeg bu'n bosibl i ddinasyddion cyffredin gael mynediad i'r stryd, ond ers dechrau'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth mae cordon metal o'i chwmpas a chyfyngir yn llym ar yr hawl i brotestio yn y cyffiniau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stryd Downing, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.