Term ar bolisïau Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig (1979–90), neu ideoleg wleidyddol sy'n adlewyrchu'r fath bolisïau yw Thatcheriaeth.
Mae'n crybwyll ffydd yn y farchnad rydd i ffynnu heb ymyrraeth gan y wladwriaeth. Ystyrir Thatcheriaeth yn fath o neo-ryddfrydiaeth a'r wraig ei hun yn eicon geidwadol ac yn rhywbeth o arwres i genedlaetholwyr Prydeinig.
Dan ei harweinyddiaeth, symudodd y Blaid Geidwadol o athroniaeth "Un Genedl" y Torïaid Gwlybion i syniadau radicalaidd, yn enwedig o ran y berthynas rhwng y wladwriaeth a'r economi. Ffafriodd Thatcher annibyniaeth yr unigolyn, a datganodd "does dim y fath beth â chymdeithas". Pan ddaeth i rym, daeth â therfyn i'r wleidyddiaeth gonsensws a fu'r drefn yn San Steffan ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Tynnai'r llywodraeth yn ôl o'i rôl yn y sector breifat, a chafodd nifer o ddiwydiannau eu preifateiddio. Gostyngodd y llywodraeth ei gwariant ar wasanaethau cymdeithasol, a dirywiodd rym a dylanwad yr undebau llafur. Dadleuodd Thatcher hefyd o blaid arianyddiaeth.
Cafodd Thatcheriaeth effaith sylweddol os nad chwyldroadol ar wleidyddiaeth, economi, a chymdeithas y Deyrnas Unedig. Bu cryn anghydfod ynglŷn â'i pholisïau trwy gydol ei llywodraeth ac yn y blynyddoedd ers hynny. Newidiodd y DU o economi ddiwydiannol i wlad â'r mwyafrif o'r llafurlu yn gweithio yn y sector gwasanaethau. Cyhuddwyd pob un o olynwyr Thatcher yn 10 Stryd Downing, hyd yn oed y prif weinidogion Llafur Tony Blair a Gordon Brown, o ddilyn ei pholisïau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thatcheriaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.