Rhyfel Yn Erbyn Terfysgaeth

Ymgyrch gan lywodraeth Unol Daleithiau America a rhai o'i gynghreiriaid â'r nod o derfynu terfysgaeth ryngwladol yw'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth (neu weithiau'r Rhyfel ar Derfysgaeth – yn swyddogol, Global War on Terrorism).

Gall gynnwys ymyrraeth filwrol, gwleidyddol neu gyfreithiol.

Mae yn ymgyrch ddadleuol iawn gan ei fod yn ôl llawer yn cyfiawnhau taro'n gyntaf yn erbyn gwlad arall, yn gweithredu yn erbyn hawliau dynol ac yn erbyn cyfraith ryngwladol.

Lansiwyd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth fel ymateb i'r ymosodiadau ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Washington, DC ar 11 Medi 2001.

Nid yw'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth yn ryfel draddodiadol – yn lle gwledydd â ffiniau pendant yn ymladd yn erbyn ei gilydd, mae rhan fwyaf o'r rhyfel yn cael ei ymladd gan ddefnyddio lluoedd arfog arbennig, gwybodaeth, gwaith heddlu a diplomyddiaeth.

Dechreuodd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth gyda goresgyniad Affganistan yn Hydref 2001. Ar ôl dadl ryngwladol ynglŷn ag arfau dinistriol, meddiannodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig ac eraill Irac yn 2003. Mae nifer yn credu mai Syria ac Iran ymysg gwledydd nesaf i gael eu targedu.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

LlywodraethTerfysgaethUnol Daleithiau America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Riley ReidBBC OneTaekwondoThe Dude WranglerThe Salton SeaCaeredinCeridwenOwen Morris RobertsBrân bigfainFflorensLibrary of Congress Control NumberURLTomos yr ApostolWhatsAppCalsugnoSiot dwadIsabel IcePen-y-bont ar Ogwr (sir)FfrwythBois y CilieKlaipėdaBahadur Shah ZafarYumi WatanabeSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanBu・SuMirain Llwyd OwenThomas VaughanIkurrinaWicipediaYsgol Llawr y BetwsHarri StuartSaesonYr Ynysoedd DedwyddLlawfeddygaeth12 ChwefrorHarmonicaSorgwm deuliwBusnes22Teulu'r MansMaffia Mr HuwsParalelogramBrimonidinUn Nos Ola LeuadTŷ unnosGwlad PwylMadeleine PauliacWicipedia SbaenegÆgyptusDerek UnderwoodAderyn bwn lleiafLlyn AlawLos AngelesRwsiaCamlas SuezB. T. HopkinsCorrynY Weithred (ffilm)Beach Babes From BeyondYsbyty Frenhinol HamadryadTîm pêl-droed cenedlaethol CymruCerdd DantDenk Bloß Nicht, Ich HeuleCyfieithiadau i'r GymraegCascading Style Sheets14eg ganrifChris Williams (academydd)Rhyw rhefrol🡆 More