Mae Donald McNichol Sutherland, OC (a aned 17 Gorffennaf 1935) yn actor o Ganada sydd â'i yrfa ffilm yn ymestyn dros bum degawd.
Donald Sutherland | |
---|---|
Ganwyd | 17 Gorffennaf 1935 Saint John |
Man preswyl | Stanstead |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor llais, Llefarydd, cynhyrchydd ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, ymgyrchydd heddwch, actor teledu, sgriptiwr |
Tad | Frederick McLea Sutherland |
Mam | Dorothy Isobel McNichol |
Priod | Shirley Douglas, Francine Racette |
Plant | Kiefer Sutherland, Rossif Sutherland, Angus Sutherland, Rachel Sutherland |
Gwobr/au | Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr Romy, Teen Choice Award for Best Villain, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Swyddog Urdd Canada, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Ordre des Arts et des Lettres, Golden Globe Award for Best Supporting Actor – Series, Miniseries or Television Film |
Cododd Sutherland i enwogrwydd ar ôl chwarae mewn cyfres o ffilmiau llwyddiannus, gan gynnwys The Dirty Dozen (1967), M*A*S*H (1970), Kelly's Heroes (1970), Klute (1971), Don't Look Now (1973), Fellini's Casanova (1976), 1900 (1976), Animal House (1978), Invasion of the Body Snatchers (1978), Ordinary People (1980) ac Eye of the Needle (1981).
Wedi hynny sefydlodd ei hun fel un o actorion cymeriad mwyaf parchus a hyblyg Canada.
Yn ddiweddarach bu'n serennu mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill lle ymddangosodd naill ai mewn rolau arweiniol neu gynorthwyol megis A Dry White Season (1989), JFK (1991), Outbreak (1995), A Time to Kill (1996), Without Limits (1998), The Italian Job (2003), Cold Mountain (2003), Pride & Prejudice (2005), Aurora Borealis (2006) a masnachfraint The Hunger Games (2012–2015).
Enwebwyd Sutherland am wyth Gwobr Golden Globe, gan ennill dau am ei berfformiadau yn y ffilmiau teledu Citizen X (1995) a Path to War (2002); daeth Citizen X hefyd â Gwobr Emmy Primetime iddo. Mae ganddo seren ar Balmant Enwogion Hollywood a Phalmant Enwogion Canada Mae wedi derbyn Gwobr Academi Canada am y ffilm drama Threshold (1981). Mae sawl cyhoeddiad cyfryngau a beirniad ffilm wedi ei ddisgrifio fel un o'r actorion gorau na enwebwyd erioed am Oscar. Yn 2017, derbyniodd Wobr Oscar Er Anrhydedd am ei gyfraniadau at sinema..
Yn y gyfres a darlledwyd ar sianeli FX a BBC 2 Trust sy'n ymdrin a herwgipiad John Paul Getty III mae Sutherland yn chware ran y taid J. Paul Getty
Ef yw tad yr actorion Rossif Sutherland, Angus Sutherland a Kiefer Sutherland.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Donald Sutherland, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.