Newyddiadurwr, addysgwr, gwesteiwr podlediadau ac ymgyrchydd elusennol o Lundain oedd y Fonesig Deborah Anne James DBE (1 Hydref 1981 – 28 Mehefin 2022).
Ar ôl cael ddiagnosis o ganser y coluddyn anwelladwy yn 2016, dechreuodd gynnal y podlediad You, Me and the Big C ar BBC Radio 5. Y pwn oedd ei brwydrau gyda’i salwch.
Deborah James | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1981 Llundain |
Bu farw | 28 Mehefin 2022 o canser colorectaidd Woking |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, awdur, podcastiwr, codwr arian, athro ysgol, colofnydd, ymgyrchydd |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Honorary doctorate from the University of East Anglia |
Gwefan | https://www.bowelbabe.org |
Cafodd James ei geni yn Llundain, yn ferch i Heather ac Alistair James. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Salesian, Chertsey, Swydd Surrey, gan fynd ymlaen yn ddiweddarach i astudio economeg ym Mhrifysgol Caerwysg. Priododd â Sebastian Bowen a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd.
Bu James yn ddirprwy brifathrawes yn arbenigo mewn cyfrifiadureg ac e-ddysgu yn Ysgol Salesian, Chertsey. Symudodd i Ysgol Matthew Arnold yn Staines-upon-Thames lle bu'n gweithio hyd nes iddi gael diagnosis o ganser y coluddyn. Dechreuodd weithio fel newyddiadurwr a cholofnydd i'r Sun, gan fanylu ar ei thaith canser. Ym mis Mawrth 2018, dechreuodd gyflwyno podlediad ar gyfer BBC Radio 5, ochr yn ochr â chyd-gleifion canser Lauren Mahon a Rachael Bland, a bu farw’r olaf ohonynt ym mis Medi 2018.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Deborah James, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.