Diwinydd a llenor Cymreig oedd David Miall Edwards (22 Ionawr 1873 – 29 Ionawr 1941).
Ysgrifennai mewn Cymraeg a Saesneg ar ddiwinyddiaeth gan gymryd safbwynt Rhyddfrydiaeth a bu'n olygydd Y Dysgedydd ac Yr Efrydydd.
David Miall Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1873 Llanfyllin |
Bu farw | 29 Ionawr 1941 Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, diwinydd, athro cadeiriol |
Ganed Edwards yn Llanfyllin, Powys yn 1873 yn fab i William a Jane Edwards. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanfyllin, Prifysgol Bangor, Coleg Bala-Bangor a Choleg Mansfield, Rhydychen. Ar ôl cyfnod fel gweinidog aeth yn athro diwinyddiaeth yn y Coleg Coffa, Aberhonddu lle arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1934.
Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Annibynwyr Capel Salem, Blaenau Ffestiniog 1900 i 1904 a Chapel y Plough, Aberhonddu 1904 i 1909.
Ym 1914 priododd Lilian Clutton Williams, Manceinion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Miall Edwards, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.