Meteorolegydd Cymreig oedd David Brunt (17 Mehefin 1886 – 5 Chwefror 1965).
Ganwyd ym Mhenffordd-Las neu Drefeglwys (Staylittle), ger Llanidloes yn un o 9 o blant i was fferm, cyn symud i'r gweithfeydd glo yn Llanhiledd, Sir Fynwy. Mynychodd Ysgol Abertileri ac yna graddiodd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd pellach yng Nghaergrawnt.
David Brunt | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1886 Penffordd-Las |
Bu farw | 5 Chwefror 1965 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | meteorolegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, KBE, Medal Brenhinol, Marchog Faglor |
Ym 1915 ymunodd ag Adran Feteoroleg y Peiriannwyr Brenhinol a chanolbwyntiodd ar ddarogan y tywydd er mwyn rheoli perfformiad y gynnau mawr yn Ffrainc; sylweddolodd bwysigrwydd ystadegaeth yn y gwaith hwn. Ym 1934 daeth yn Athro yn yr adran Feteorolegol y Coleg Imperial, Llundain a chyhoeddodd lyfr Physical and Dynamical Meteoroligy, cyfrol a ddaeth yn sail gadarn i'r astudiaeth o feteoroleg. Yn y llyfr mynnodd fod yn rhaid wrth fwy nag ystadegaeth i ddarogan y tywydd, gan gynnwys: cynnwrf, trosglwydiad gwres a deinameg patrymau'r tywydd. Ym 1939 fe'i gwaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Farchog ym 1949.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Brunt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.