Y ddwy ynys fwyaf o'r ynysoedd sy'n ffurfio Seland Newydd yw Ynys y Gogledd ac Ynys y De, gyda Culfor Cook yn eu gwahanu.
Ynys y De yw'r fwyaf, ac yma y ceir y mynyddoedd uchaf. Mae Alpau Seland Newydd yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr ynys. Y copa uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 medr), ac mae 16 copa arall fros 3,000 medr. Mae Ynys y Gogledd yn llai mynyddig, ond ceir llosgfynyddoedd yma. Copa uchaf Ynys y Gogledd yw Ruapehu, llosgfynydd sy'n 2,797 medr o uchder.
Trydydd ynys Seland Newydd yn ôl arwynebedd yw Ynys Stewart, sydd 30 km o'r de o Ynys y De, ar draws Culfor Foveaux. O tan poblogaeth, Ynys Waiheke, 18 km o arfordir Auckland yng Ngwlff Hauraki yw'r drydedd ynys. Ceir hefyd lawer o ynysoedd bychain.
Llyn mwyaf Seland Newydd yw Llyn Taupo, ar Ynys y Gogledd. Y llyn mwyaf ar Ynys y De yw Llyn Te Anau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daearyddiaeth Seland Newydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.