Mudiad gwladgarol a sefydlwyd ym 1885 oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Saesneg: The Society for Utilizing the Welsh Language).
Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1885 gyda'r nod o gael i'r iaith Gymraeg ei phriod le yn system addysg Cymru.
Ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas oedd yr awdur o genedlaetholwr Beriah Gwynfe Evans, awdur y nofel ddychanol Dafydd Dafis. Roedd arweinyddion eraill yn cynnwys Dan Isaac Davies, Isambard Owen a Henry Richard ("Yr Apostol Heddwch").
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.