Addysgwr gwladgarol ac ymgyrchydd dros y Gymraeg oedd Dan Isaac Davies (24 Ionawr 1839 – 28 Mai 1887).
Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad cyntaf o'r enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg ddwyieithog.
Dan Isaac Davies | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1839 Llanymddyfri |
Bu farw | 28 Mai 1887 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Brodor o blwyf Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin oedd Dan Isaac Davies. Ar ôl cael ei benodi yn brifathro Ysgol y Comin (Ysgol Stryd y Felin yn ddiweddarach) yn Aberdâr yn 1858, dechreuodd ar y gwaith o roi mwy o le ac urddas i'r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Roedd yn annog y staff i siarad Cymraeg yn y dosbarth a hynny'n gwbl groes i'r drefn yng Nghymru. Yn 1868 cafodd ei apwyntio'n Arolygydd Ysgolion a rhoddodd hyn y cyfle iddo ehangu ei genhadaeth er gwaethaf gwrthwynebiad gan y sefydliad addysg. Mewn canlyniad goddefwyd rhywfaint o ddefnydd o'r Gymraeg mewn addysg elfennol pan dderbynwyd ei argymhellion gan y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Elfennol yng Nghymru yn 1885.
Bu'n un o sefydlwyr y mudiaid iaith gwladgarol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1885, gyda Beriah Gwynfe Evans, Isambard Owen, Henry Richard ("Yr Apostl Heddwch") ac eraill. Bu farw yn 1887.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dan Isaac Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.