Y rhannau cydweithredol o gymdeithas sydd ar wahân i'r wladwriaeth yw cymdeithas sifil.
Mae'n cynnwys grwpiau cymdeithasol megis eglwysi a sefydliadau crefyddol eraill, busnesau a chwmnïau, y cyfryngau torfol, elusennau, carfanau pwyso, undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol, clybiau, a mudiadau cyfundrefnol. Mae'r rhwydweithiau hyn yn galluogi unigolion i weithredu mewn ffyrdd cymunedol heb ymyrraeth y wladwriaeth. Weithiau cynhwysir teuluoedd yn rhan o gymdeithas sifil, ond mae nifer o ddiffiniadau yn hepgor y teulu yn ogystal â'r unigolyn. Mae cymdeithas sifil yn gysyniad pwysig yn syniadaeth gyfoes ynglŷn â democratiaeth ryddfrydol.
Mae nifer o gymdeithasegwyr a gwyddonwyr gwleidyddol yn defnyddio'r cysyniad hwn fel fframwaith i ddadansoddi'r byd cymdeithasol ar wahân i'r llywodraeth a'r awdurdodau swyddogol. Y brif anfantais sydd gan ddull deongliadol o'r fath ydy anwybyddu'r cydberthnasau cymhleth rhwng y wladwriaeth a chymdeithas. Mae'r dadansoddiadau hyn hefyd yn tueddu i esgeuluso pwysigrwydd y byd economaidd ac effeithiau'r farchnad ar syniadau, traddodiadau, a gwerthoedd cymdeithas sifil.
Yn ogystal â disgrifiad o rwydweithiau cymdeithasol, gall hefyd defnyddio'r term cymdeithas sifil i gyfeirio at werth neu ddyhead a arddelir fel rhagamod o ddemocratiaeth. Dadleuir rhai moesegwyr a damcaniaethwyr gwleidyddol taw dirywiad cymdeithas sifil sydd ar fai am broblemau cymdeithasol-wleidyddol yn y byd modern.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymdeithas sifil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.