Y Slovenský futbalový zväz (SFZ) (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed Slofacia) yw corff llywodraethol pêl-droed yng ngweriniaeth Slofacia.
Dyma'r corff sy'n gyfrifol am lywodraethu a datblygu'r gêm yn y wlad a rhedeg Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia a'i thimau cenedlaethol eraill. Mae ei phencadlys yn Bratislava, prifddinas y wlad.
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 4 Tachwedd 1938 |
Aelod cywllt o FIFA | 1994 |
Aelod cywllt o UEFA | 1993 |
Llywydd | Ján Kováčik |
Sefydlwyd y Gymdiethas ar 4 Tachwedd 1938 yn dilyn dadgymalu gwladwriaeth Tsiecoslofacia gan y Natsiaid. Daeth yn aelod o FIFA yn 1939 gan i Slofacia ddod yn wlad annibynnol am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd (er bod nifer yn ystyried yr annibyniaeth yma fel gwladwriaeth byped i'r Natsiaid). Dadaelodwyd y Gymdeithas o FIFA yn dilyn y Rhyfel wrth i Tsiecoslofacia ail-ffurfio fel gwladwriaeth unedig gyda un tîm pêl-droed.
Yn dilyn diddymiad Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993 fe ail-ffurfiwyd y Gymdeithas gan ail-ymuno â chorff lywodraethol pêl-droed Ewrop, UEFA ac ymuno am y tro cyntaf â'r corff byd-eang, FIFA yn 1994.
Y Gymdeithas Bêl-droed sy'n rhedeg y tîm cenedlaethol yn ogystal â'r timau dynion Dan-21, dan-19, dan-18, dan-17, dan-16 a dan-15. Mae hefyd yn gyfrifol am dîm cenedlaethol menywod Slofacia.
Mae'r SFZ yn gyfrifol am drefnu twrnamentiau pêl-droed yn y wlad. Y gynghrair uchaf yw'r Uwch Gynghrair a elwir, ar hyn o'r bryd, yn Fortuna Liga arôl y prif noddwyr. asefydlwyd yn 1939. Ceir wedyn, Cynghrair 1ad; 2il Gynghrair a Cynghrair 1af Menywod a hefyd cystadleaeth Cwpan Slofacia.
Mae Slofacia wedi ymddangos mewn dau brif pencampwriaeth ers diddymu Tsiecoslofacia:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymdeithas Bêl-droed Slofacia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.