Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecia (Tsieceg: Česká fotbalová reprezentace) yn cynrychioli Tsiecia (y Weriniaeth Tsiec cynt) yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg: otbalová asociace České republiky) (FAČR), corff llywodraethol y gamp yn y wlad.
Mae'r SFZ yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Perchennog | Football Association of the Czech Republic |
Rhagflaenydd | Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecoslofacia |
Gwladwriaeth | tsiecia |
Gwefan | https://repre.fotbal.cz/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hyd nes 1993 roedd chwaraewr o Tsiecia yn cynrychioli Tsiecoslofacia. Ers i'r Weriniaeth Tsiec a Slofacia rannu'n ddwy wlad annibynnol mae FIFA ac UEFA yn ystyried tîm cenedlaethol y Weriniaeth Tsiec fel olynwyr uniongyrchol Tsiecoslofacia.
Llwyddodd y Weriniaeth Tsiec i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006 ac maent wedi chwarae yn y pum rownd terfynol o Bencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ers sicrhau annibyniaeth, gan orffen yn ail ym 1996.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.