Cân werin Gymreig yw Cyfri'r Geifr.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Mae'n bosib ei bod yn tarddu o un o ddefodau gwaseila Gŵyl Fair, lle byddai'r cantorion yn ceisio mynd i mewn i dŷ trwy ofyn cwestiwn ("Oes gafr eto?" yn y gân hon), a'r rhai yn y tŷ yn ymateb gyda dilyniant cynyddol o atebion.
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro?
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen.
Ie finwen, finwen, finwen.
Foel gynffonwen, foel gynffonwen,
Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen.
Gafr ddu, ddu, ddu.
Ie finddu, finddu, finddu.
Foel gynffonddu, foel gynffonddu,
Ystlys ddu a chynffon ddu, ddu, ddu.
Gafr goch, goch, goch.
Ie fingoch, fingoch, fingoch.
Foel gynffongoch, foel gynffongoch,
Ystlys goch a chynffon goch, goch, goch.
Gafr las, las, las.
Ie finlas, finlas, fin las.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon las, las, las.
Yn ôl traddodiad, yn y pennill olaf, pinc yw'r afr …
Gafr binc, binc, binc.
Ie fin binc, fin binc, fin binc.
Foel gynffonbinc, foel gynffonbinc,
Ystlys binc a chynffon binc, binc, binc.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfri'r Geifr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.