Mae cyfres Harri Potter yn cynnwys cysylltiau i Gymru ac mae un llyfr hyd yn hyn (Awst 2011) wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Emily Huws, a ddywedodd, Gwynebais anawsterau arbennig nad oeddwn wedi eu profi o'r blaen wrth gyfieithu Harri Potter.
Mae gan JK Rowling ffordd mor wych gyda iaith, gan ei bod wedi gwneud geiriau i fyny o'i dychymyg, ac fe wnes i fy ngorau i gadw'n ffyddlon i'w hystyr gwreiddiol." Cafodd, felly, gymorth gan gefnogwr 15 mlwydd oed wrth iddi gyfieithu'r llyfr.
Yr unig lyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg yw Harri Potter a Maen yr Athronydd.
Yn fersiwn Cymraeg y nofel, mae'r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn cadw eu henwau Saesneg, ond mae enw Cymraeg gwahanol ar rai cymeriadau, pethau, neu leoedd mewn cymhariaeth â'r fersiwn Saesneg.
Cymraeg | Saesneg gwreiddiol |
---|---|
Dreigo Mallwyd | Draco Malfoy |
Edeyrn ag Efnisien | Crabbe and Goyle |
Gringrwn | Gringotts |
Mygl (lluosog: Myglars) | Muggle (muggles) |
Nefydd Llywelyn | Neville Longbottom |
Y Proffwyd Dyddiol | The Daily Prophet |
Garadog Fychan | Cornelius Fudge |
Y Piwsiwr | Peeves |
Waldo Waedlyd | the Bloody Baron |
Wyddost-Ti-Pwy | You-Know-Who |
Gron Heb Ben Bron | Nearly Headless Nick |
Sefran Sneip | Severus Snape |
Siriws Ddu | Sirius Black |
Enwau pedwar Tŷ Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts:
Cymraeg | Saesneg gwreiddiol |
---|---|
Slafennog | Slytherin |
Lleureurol | Gryffyndor |
Wfftipwff | Hufflepuff |
Crafangfran | Ravenclaw |
Yn 2010 cyhoeddwyd argraffiad clawr papur o’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg, ag ynddi gyfieithiad i enwau’r saith lyfr petaaent yn cael eu cyfieithu, fel a ganlyn:
Saesneg gwreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Harry Potter and the Philosopher's Stone | Harri Potter a Maen yr Athronydd |
Harry Potter and the Chamber of Secrets | Harri Potter a’r Siambr Gyfrinachau |
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban | Harri Potter a’r Carcharor o Azkaban |
Harry Potter and the Goblet of Fire | Harri Potter a’r Ffiol Fflamau |
Harry Potter and the Order of the Phoenix | Harri Potter ac Urdd y Ffenics |
Harry Potter and the Half-Blood Prince | Harri Potter a’r Tywysog o Hanner Gwaed |
Harry Potter and the Deathly Hallows | Harri Potter a’r Tri Pheth Marwol |
J.K. Rowling, cyf. Emily Huws, Harri Potter a Maen yr Athronydd, (Bloomsbury, Llundain. 2010) ISBN 978-1-4088-1767-4
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfres Harri Potter a'r Gymraeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.