Achos o saethu torfol yn yr Unol Daleithiau oedd cyflafan Lewiston a gyflawnwyd ar 25 Hydref 2023 yn Lewiston, yn nhalaith Maine, gan ladd 18 ac anafu 13 o bobl.
Cychwynnodd y trosedd mewn alai fowlio, ac yna saethwyd ar bobl mewn bwyty ychydig funudau'n hwyrach. Ffoes y llofrudd, a saethodd ei hun yn farw yn ddiweddarach.
Enghraifft o'r canlynol | spree shooting, llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dyddiad | 25 Hydref 2023 |
Lladdwyd | 18 |
Rhan o | Saethu torfol yn yr Unol Daleithiau |
Lleoliad | Sparetime Recreation Lewiston, Schemengees Bar & Grille |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Androscoggin County |
Ychydig cyn saith o'r gloch yr hwyr (Amser Dwyrain UDA) ar Ddydd Mercher, 25 Hydref 2023, cafodd ddau achos ar wahân o saethu eu riportio yn ninas Lewiston, un yn alai fowlio Just-in-Time Recreation a'r llall yn Schemengees Bar & Grille Restaurant, rhyw bedair milltir i ffwrdd. Llofruddiwyd saith yn yr alai fowlio, saith yn y bwyty, ac un yn y stryd y tu allan i'r bwyty. Bu farw tri pherson arall wedi iddynt gael eu cludo i Ganolfan Feddygol Ganolog Maine. O'r rhai a saethwyd yn yr alai fowlio, roedd pedwar person byddar a oedd yn chwarae mewn cystadleuaeth taflu bagiau ffa, tad a'i fab 14 oed yn bowlio gyda'i gilydd, cwpl yn eu henaint yn bowlio, a gweithwraig a geisiodd ffonio'r heddlu. Un o'r rhai a laddwyd yn y bwyty oedd y rheolwr a gafaelodd mewn cyllell i geisio rhwystro'r saethwr.
Erbyn wyth o'r gloch, rhyddhawyd ffotograff o'r un a ddrwgdybir, dyn 40 oed o'r enw Robert Card, gan Swyddfa Siryf Androscoggin County, a chychwynnodd helfa eang ar ei ôl. Cyhoeddwyd gwarant i'w arestio ar ddeunaw cyhuddiad o lofruddiaeth. Cynghorwyd i fusnesau'r ddinas gau ac i drigolion aros yn eu cartrefi. Erbyn canol nos, cafwyd hyd i'r car Subaru a yrrwyd gan Card, wrth fan lansio cychod yn nhref Lisbon, oddeutu saith milltir i dde-ddwyrain Lewiston. Ar nos 27 Hydref, wedi deuddydd o chwilio, cafwyd hyd i gorff Card, wedi saethu ei hunan yn farw, mewn carafán mewn maes parcio ger canolfan ailgylchu yn Lisbon Falls.
Aelod o Fyddin Wrth Gefn yr Unol Daleithiau oedd Robert Card, a drigodd yn Bowdoin, Maine. Dioddefai o afiechyd meddwl, a chafodd ei gadw mewn ysbyty seiciatrig am bythefnos yn ystod haf 2023. Yn ôl yr heddlu, prynodd Card ei ynnau ychydig o ddyddiau cyn y trosedd.
Hwn ydy'r achos gwaethaf o saethu torfol yn hanes Maine, ac un o'r achosion gwaethaf yn hanes yr Unol Daleithiau yn nhermau'r nifer a laddwyd. Yn sgil y lladdfa, galwodd yr Arlywydd Joe Biden ar wleidyddion y Blaid Weriniaethol yn y Gyngres i "gyflawni eu rhwymedigaeth i gadw'r bobl Americanaidd yn ddiogel".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyflafan Lewiston, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.