Corff gweinyddol Ymerodraeth Rwsia yn yr Hetmanaeth oedd Colegiwm Rwsia Fechan (Rwseg: Малороссийская коллегия trawslythreniad: Malorossiiskaia kollegiia, Wcreineg: Малоросійська колегія Malorosiiska kolehiia) a fodolai o 1722 i 1727.
Yn ôl gorchymyn (ukase) gan y Tsar Pedr I ar 16 Mai [27 Mai yn yr Hen Ddull] 1722, sefydlwyd Colegiwm Rwsia Fechan yn Hlukhiv dan arweiniad y Brigadydd Stepan Veliaminov-Zernov. Nod y corff newydd oedd i oruchwylio'r hetman a'i swyddogion a'r drefn gatrodol ymhlith Llu Cosaciaid Zaporizhzhia.
Yn sgil marwolaeth yr Hetman Ivan Skoropadsky yng Ngorffennaf 1722, cipiwyd grymoedd yr hetman gan y colegiwm, a fyddai'n rheoli gweinyddiaeth, barnwriaeth, a thrysorlys Wcráin am bum mlynedd. O ganlyniad i wrthwynebiad y starshyna, prif swyddogion milwrol a gwleidyddol y Cosaciaid, addawodd Pedr i ddiddymu'r colegiwm, a'r hwnnw a wnaeth ar 29 Medi 1727.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Colegiwm Rwsia Fechan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.