Defnyddir yr enw cocsen, neu'n fwy cyffredin y lluosog cocos, am un o nifer o rywogaethau yn y teulu Cardiidae.
Fei' ceir o gwmpas y traethau ym mhob un o foroedd y byd, o'r Arctig i'r trofannau. Ceir 14 o rywogaethau yng ngorllewin Ewrop yn unig. Y fwyaf cyffredin yw Cerastoderma edule, y gocsen gyffredin.
Molwsgiaid sydd a chragen mewn dwy ran yw cocos, gyda'r gragen yn gron fel rheol. Maent yn byw o gwmpas y traethau, gan gloddio i mewn i'r mwd. Plancton yw ei bwyd; maent yn tynnu dŵr y môr i mewn i'r gragen a'i ridyllu i gael y plancton allan ohono.
Ystyrir cocos yn dda i'w bwyta, a cheir diwydiant hel cocos pwysig ar hyd yr arfordir mewn llawer gwlad. Yng Nghymru, cysylltir hel cocos yn fwyaf arbennig a phentref Penclawdd ar benrhyn Gŵyr, ond ar un adeg roedd yn ddiwydiant pwysig mewn llawer man ar hyd yr arfordir, er enghraifft o gwmpas Bae Caerfyrddin, glannau Dyfrdwy a Traeth Lafan. Erbyn hyn mae gor-gasglu yn broblem, a chedwir llawer o'r gwelyau cocos ar gau am gyfnodau hir. Pan agorir gwely i gasglwyr, yn aml bydd cannoedd o gasglwyr, wedi eu trefnu yn gangiau, yn cyrraedd o bellteroedd i hel y cocos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cocsen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.