Gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Pobl Hwngari oedd Chwyldro Hwngari, 1956 a barhaodd o 23 Hydref hyd 10 Tachwedd 1956.
Cychwynnodd fel gwrthdystiad gan filoedd o fyfyrwyr a orymdeithiodd trwy ganol Budapest i adeilad y Senedd. Ceisiodd carfan o'r myfyrwyr ddarlledu eu gofynion o tu fewn i'r adeilad radio, ond cawsant ei rhwystro a'u dal. Pan fynnodd y torfeydd tu allan i'r myfyrwyr gael eu rhyddhau, dechreuodd Heddlu Diogelwch y Wladwriaeth (ÁVH) saethu ar y torfeydd tu allan o tu fewn i'r adeilad. Ymledodd y newyddion yn gyflym gan esgor ar anhrefn a thrais trwy'r brifddinas.
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro |
---|---|
Dyddiad | 1956 |
Rhan o | y Rhyfel Oer |
Dechreuwyd | 23 Hydref 1956 |
Daeth i ben | 10 Tachwedd 1956 |
Lleoliad | Gweriniaeth Pobl Hwngari |
Yn cynnwys | the siege of Hungarian Radio |
Gwladwriaeth | Hwngari |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymledodd y gwrthryfel yn gyflym ar draws Hwngari, a chwympodd y llywodraeth. Trefnwyd y bobl yn filisiâu, gan frwydo yn erbyn yr ÁVH a lluoedd Sofietaidd. Daeth llywodraeth newydd i rym a ddatganodd ei bwriad i encilio o Gytundeb Warsaw ac ail-sefydlu etholiadau rhydd. Erbyn diwedd mis Hydref daeth y brwydro i ben bron.
Wedi iddynt ddatgan parodrwydd i drafod enciliad gan luoedd Sofietaidd, newidiodd y Politburo ei feddwl a dechreuodd dinistrio'r chwyldro. Ar 4 Tachwedd, goresgynnwyd Budapest ac ardaloedd eraill o'r wlad gan yr Undeb Sofietaidd. Parhaodd gwrthsafiad Hwngaraidd hyd 10 Tachwedd. Bu farw dros 2,500 o Hwngariaid a 700 o luoedd Sofietaidd yn y gwrthdaro, a bu ffoi 200,000 o Hwngariaid fel ffoaduriaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chwyldro Hwngari (1956), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.