Un o 31 talaith ffederal Mecsico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin ag yr Unol Daleithiau (UDA), yw Chihuahua.
Mae ganddi arwynebedd o 244,938 km sgwar (94,571.1 milltir sgwar). Fe'i amgylchynnir gan daleithiau Sonora, Sinaloa, Durango a Coahuila ym Mecsico ei hun a gan Texas a New Mexico dros y ffin i'r gogledd, yn UDA. Chihuahua yw'r dalaith fwyaf ym Mecsico, ffaith sydd wedi ennill iddi'r llysenw "El Estado Grande" ('Y Dalaith Fawr').
Math | talaith Mecsico |
---|---|
Prifddinas | Chihuahua City |
Poblogaeth | 3,556,574 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | María Eugenia Campos Galván |
Cylchfa amser | UTC−07:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 247,455 km² |
Yn ffinio gyda | Sonora, Coahuila, Sinaloa, Durango, Texas, Mecsico Newydd |
Cyfesurynnau | 28.6392°N 106.0733°W |
Cod post | 31 |
MX-CHH | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Congress of Chihuahua |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Chihuahua |
Pennaeth y Llywodraeth | María Eugenia Campos Galván |
Mae ei thirffurfiau amlwg yn cynnwys Anialwch Chihuahua, y Barranca del Cobre ('Canyon Copr') a'r Sierra Madre Occidental. Ceir nifer o fforestydd a hefyd wastadeddau eang (yn ardaloedd Casas Grandes, Cuauhtémoc a Parral).
Yn 2005, roedd 3.2 miliwn o drigolion yno. Y ddinas fwyaf yw Ciudad Juárez, ar y ffin ag UDA, gyda 1,301,452 o bobl. Chihuahua, gyda 748,518 o drigolion, yw prifddinas y dalaith.
Gwelwyd sawl brwydr rhwng y pobloedd Apache brodorol a'r Mecsicanwyr yn y dalaith yn y 19eg ganrif; lladdwyd Victorio a llawer o'i fand ger Tres Castillos yn 1880, er enghraifft. Bu gan Chihuahua rhan allweddol yn Chwyldro Mecsico pan fu'n dyst i ymladdfeydd mawr rhwng y chwyldroadwyr dan Pancho Villa a'r fyddin ffederal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chihuahua, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.