Cenedlaetholdeb sydd yn arddel taw cenedl yw'r bobl wynion, naill ai mewn cyd-destun rhanbarthol neu ryngwladol, a bod angen llywodraeth wen i sicrhau eu hawliau, hunaniaeth a diwylliant yw cenedlaetholdeb croenwyn.
Fel mudiad byd-eang, neu ffurf ar holl-genedlaetholdeb, mae'n pwysleisio etifeddiaeth gyffredin yr hil wen. Ar ei ffurfiau rhanbarthol mae'n galw am ddatblygu a chynnal hunaniaeth genedlaethol y bobl wynion o fewn gwlad benodol, gan amlaf gwlad a chanddi boblogaeth wen yn disgyn o sawl gwahanol grŵp ethnig Ewropeaidd, er enghraifft Unol Daleithiau America neu Dde Affrica. Mae nifer o genedlaetholwyr croenwyn yn cefnogi cysyniad yr ethno-wladwriaeth wen, sef cenedl-wladwriaeth a fyddai'n neilltuo dinasyddiaeth ar gyfer gwynion ac yn diogelu eu buddiannau.
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol, mudiad cymdeithasol |
---|---|
Math | cenedlaetholdeb ethnig, racial nationalism, pan-nationalism |
Y gwrthwyneb | Black Power |
Dechreuwyd | 14 Hydref 1925 |
Yn cynnwys | criticism of multiculturalism |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw cenedlaetholdeb croenwyn yn gyfystyr â balchder croenwyn, goruchafiaeth y gwynion, ymwahaniaeth groenwen, nac hunaniaeth groenwen, er bod y cysyniadau a'r creodau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cenedlaetholdeb croenwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.