Rhanbarth yn nwyrain Canada yw Canada'r Iwerydd neu Daleithiau'r Iwerydd sydd yn cynnwys y pedair talaith sydd yn ffinio â Chefnfor yr Iwerydd, ac eithrio Québec, sef Newfoundland a Labrador, a Thaleithiau'r Arfordir: New Brunswick, Prince Edward Island, a Nova Scotia.
Fel rheol ni chynhwysir Québec gyfan yn un o daleithiau'r Iwerydd, er weithiau gellir ystyried gorynys Gaspé yn rhan o Ganada'r Iwerydd.
Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Canada |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 500,531 km² |
Cyfesurynnau | 47°N 62°W |
Hyd at 1949, yr oedd Newfoundland yn ddominiwn ar wahân i Ganada o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd gan Daleithiau'r Arfodir hunaniaeth nodweddiadol yn debyg i'w gilydd, o ganlyniad i'w hanes. Bathwyd yr enw "Canada'r Iwerydd" gan Joey Smallwood, prif weinidog cyntaf Newfoundland, wedi i'r ynys honno ymuno â Dominiwn Canada yn 1949.
Mae nifer o drigolion Taleithiau'r Arfordir o blaid Undeb yr Arfodir, hynny yw uno'r tair talaith, ond nid oes fawr o awydd yn yr Arfordir nac yn Newfoundland dros uno pedair talaith Canada'r Iwerydd yn un.
Tirwedd hardd ac amrywiol sydd gan Ganada'r Iwerydd, gan gynnwys coedwigoedd pinwydd, bryniau, iseldiroedd ffrwythlon, arfordiroedd cilfachog, a chlogwyni creigiog. Yn y gaeaf mae'r arfordiroedd yn wlyb ac yn oer iawn, yn niwlog ac yn stormus, ac mae'r tywydd yn fwyn ac yn braf yn yr haf. Mae'r ardaloedd mewndirol yn sych ac yn cael cwymp eira uchel yn y gaeaf.
Yn hanesyddol roedd y diwydiant mwydion a phapur yn bwysig yn yr ardal, a brodor o Nova Scotia oedd Charles Fenerty a ddyfeisiodd y broses o wneud papur o fwydion pren.
Yn yr 20g, gostyngodd twf economaidd yng Nghanada'r Iwerydd wrth i'r diwydiannau pysgota a choedwigaeth ddirywio. Yn yr 21g mae gobaith byddai llwyfannau olew a nwy ar y môr yn hwb i economi'r rhanbarth, yn enwedig ym maes olew Hibernia i dde-ddwyrain Newfoundland. Mae nifer fawr o oleudai yng Nghanada'r Iwerydd.
Porthladd prysuraf dwyrain Canada o ran masnach ydy Morffordd St Lawrence yn ne Québec, sy'n cysylltu'r Iwerydd â'r Llynnoedd Mawr, ac mae'n rhaid teithio trwy Gwlff St Lawrence yng Nghanada'r Iwerydd i hwylio o'r cefnfor i'r forffordd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Canada'r Iwerydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.