Un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Brwydr y Somme pan laddwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr.
Ymladdwyd y frwydr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1916. Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrengig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o Afon Somme yng ngogledd Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 18 Tachwedd 1916 |
Rhan o | Ffrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1916 |
Daeth i ben | 17 Tachwedd 1916 |
Lleoliad | Afon Somme |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, 1 Gorffennaf 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
Amcan y frwydr oedd i ddenu lluoedd yr Almaen oddi ar Frwydr Verdun ond mewn gwirionedd collwyd mwy ar y Somme nag yn Verdun.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brwydr y Somme 1916, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.