Helgi sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Brochgi neu'r Dachsund (lluosog: Dachsunds).
Weithiau ar lafar yn Ne Cymru fe'i eliwir yn gi llathaid, ond gall yr enw hwn hefyd gyfeirio at y corgi. Mae "Brochgi" yn gyfieithiad llythrennol o'r enw Almaeneg Dachshund: cafodd y brîd hwn ei ddatblygu i hela'r broch yn ei ddaear. Er ei fod yn helgi, mae gan y Brochgi dras o grŵp y daeargwn ac mae'n ymddwyn yn debyg i ddaeargi.
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci bywiog yw'r Brochgi sydd yn hir ei gorff gyda brest dwfn, coesau byrion, trwyn pigfan, a chlustiau hirion. Ceir dau faint – safonol a bach – a thri math o gôt – llathraidd, hirwallt, a gwrychog. Gan amlaf mae ganddo flew brown-goch neu felyn a du. Mae ganddo daldra o 18 i 25 cm (7 i 10 modfedd) ac yn pwyso 7 i 14.5 kg (16 i 32 o bwysau); mae'r ffurf fechan yn fyrach ac yn pwyso llai na 5 kg (11 o bwysau).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brochgi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.