Britheg Y Gors

Glöyn byw Ewropeaidd yw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia), ac mae dan fygythiad a'i niferoedd yn lleihau’n gyflym drwy wledydd Prydain.

Britheg y gors
Britheg Y Gors
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Euphydryas
Rhywogaeth: E. aurinia
Enw deuenwol
Euphydryas aurinia
(Rottemburg, 1775)

Mae'n ddibynol ar Damaid y cythraul fel ei brif fwyd. Mae gan yr oedolion farciau trawiadol aur ac orengoch a gwythiennau duon. Ar ochr isaf yr adenydd mae patrwm melyn, oren a du heb unrhyw arlliw o arian o gwbl. Ceir marciau arian o dan adenydd pob math arall o frithion, yng Nghymru.

Mae De Cymru yn un o brif gadarnleoedd y rhywogaeth yn Ewrop. Mae rhai poblogaethau yn bodoli yn y gogledd hefyd. Fel arfer mae Britheg y Gors i’w chael mewn glaswelltiroedd llaith a grugog a elwir Porfeydd Rhos ond mae'r rhywogaeth yn bodoli mewn mathau eraill o gynefinoedd sy'n sychach, fel glaswelltiroedd niwtral neu laswelltiroedd calchaidd sych. Gellir gweld poblogaethau bach weithiau mewn nifer o fannau lle nad oes llawer o fwyd planhigion i’w gael. Gall poblogaethau bach fod yn elfen bwysig o'r ecoleg a'r deinameg poblogaeth oherwydd gallant gynhyrchu llawer o unigolion symudol, sy'n gallu sefydlu poblogaethau eraill.

Mae Britheg y Gors yn cael ei diogelu dan gyfraith Prydain. Mae wedi’i rhestru yn rhestr warchodedig Atodiad 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Mae’r pili palod yn hedfan o ganol Mai tan Fehefin. Dodwyir yr wyau mewn grwpiau ar ochr isaf dail y planhigyn bwyd, Tamaid y cythraul (Succisa pratensis). Mae’r lindys ifanc yn byw mewn gweoedd cyffredin a nyddant dros y planhigyn bwyd. Yn yr hydref maent yn nyddu gweoedd cryfach lle byddant yn dechrau gaeafgysgu.

Yn y gwanwyn bydd y lindys yn dechrau gwasgaru, ar ôl y bwrw croen terfynol. Byddant wedi newid o liw brown i ddu. Gellir eu gweld yn torheulo weithiau. Mae rhaid iddynt fod yn gynnes i fwyta.

Mae gwaith ymchwil i ddeinameg poblogaeth Britheg y Gors wedi dangos ei bod yn byw mewn “metaboblogaethau”. Diffinnir Metaboblogaeth fel “casgliad o boblogaethau lleol, sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd o ganlyniad i wasgaru achlysurol. O fewn y rhain bydd rhai yn diflannu a chlystyrau eraill yn cael eu sefydlu.”

Fel arfer mae Brith y Gors yn byw mewn poblogaethau bach sy’n dueddol o farw allan ac yna bydd poblogaethau eraill yn cael eu sefydlu o safleoedd cyfagos. Elfen bwysig iawn yn y gyfyndrefn o fetaboblogaethau yw y bydd ardaloedd o gynefin gwag yn bodoli bob amser o fewn y gyfundrefn. Mae’n bosib i’r rhan fwyaf o’r darnau cynefin fod yn wag. Mae diogelu safleoedd addas lle nad yw’r pili pala’n bresennol yn hanfodol i’w goroesiad yn y tymor hir.

Tags:

Glöyn bywTamaid y cythraul

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

David R. EdwardsAnggunTeithio i'r gofodAmwythigPornograffiCala goegDadansoddiad rhifiadolWilliam Nantlais WilliamsGruffudd ab yr Ynad CochAbaty Dinas BasingAngkor Wat705Buddug (Boudica)Sefydliad WicifryngauAwstraliaAtmosffer y DdaearMichelle ObamaVercelliKrakówOCLCSwydd EfrogOmaha, NebraskaFfawt San Andreas1528CenedlaetholdebBogotáS.S. LazioWicidataTriesteAfon TyneIRCMET-ArtWrecsamThe Disappointments RoomRhyw rhefrolPisoYr Ymerodraeth AchaemenaiddGwneud comandoStockholmGwyfynCocatŵ du cynffongochDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddImperialaeth NewyddFunny PeopleThe Squaw ManLionel MessiTrefMarianne NorthY Nod CyfrinRicordati Di MeDiana, Tywysoges CymruY Rhyfel Byd CyntafRhaeGwyThe InvisiblePibau uilleannGwyddelegNolan GouldDobs HillUsenetCymraegPontoosuc, IllinoisRwmaniaRhyfel Irac1771Enterprise, Alabama🡆 More