System lywodraethol, yn enwedig un lle gwneir penderfyniadau gan swyddogion y wladwriaeth yn hytrach na chynrychiolwyr etholedig, yw biwrocratiaeth.
Y gwasanaeth sifil yw'r fiwrocratiaeth mewn llywodraeth genedlaethol. Mae diffiniad ehangach o'r gair yn crybwyll y strwythur sy'n gweithredu mewn unrhyw sefydliad, gan gynnwys sefydliadau preifat megis corfforaethau, gyda phwyslais ar reolau a rheoliadau, rhaniad llafur, parhauster, rheolaeth broffesiynol, hierarchaeth a chadwyn awdurdod, ac awdurdod cyfreithiol. Defnyddir y gair hefyd yn ddilornus i ddisgrifio trefn weinyddol eithafol o gymhleth.
"Y Baich Gweinyddol": mae gwaith papur gormodol (neu dâp coch) yn un o ystrydebau biwrocratiaeth. | |
Enghraifft o'r canlynol | system wleidyddol |
---|---|
Math | tripartite classification of authority |
Y gwrthwyneb | adhocracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Biwrocratiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.