Band poblogaidd o Waunfawr, Caernarfon oedd Big Leaves (Beganifs yn wreiddiol).
Ffurfiwyd y band yn wreiddiol pan oedd yr aelodau yn eu arddegau ac yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Mabwysiadwyd yr enw "Beganifs" ar ôl y glas-enw lleol ar bobol y Waunfawr.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Ankst |
Dod i'r brig | 1988 |
Genre | roc indie |
Yn y 1990au gwahoddwyd y band i berfformio mewn gŵyl yn Amsterdam a saethwyd fideo yno. Camglywodd rastaffarian lleol enw'r band fel 'Big Leaves' - ac fe sticiodd yr enw. Daeth EP cyntaf y band gyda'r enw newydd yn 1998.
Fe wnaeth y band roi'r ffidl yn y to yn 2005. Alien & Familiar oedd albwm olaf y band ac yn gampwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog Oasis ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000.
Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: Pwy Sy’n Galw?. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'Seithenyn'’. Dywedodd Rhodri Siôn mewn cyfweliad - "Our song 'Seithenyn' has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!" Rhyddhaodd y band nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.
Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y Super Furry Animals a’r Manic Street Preachers.[angen ffynhonnell]
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Big Leaves, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.