Duw Hindwaidd yw Balarama (बलराम, Balarāma), sy'n frawd hŷn y duw Krishna ac a adnabyddir hefyd fel Baladeva, Baldau, Balabhadra a Halayudha.
O fewn Vaishnaviaeth a thraddodiadau o Dde India, addolir Balarama fel un o avatars (rhithiadau) y duw Vishnu, a chyfeirir ato felly yn y Bhagavata Purana, un o destunau sanctaidd Hindŵaeth. Cydnabyddir gan mwyafrif yr Hindŵaid ei fod hefyd yn rhith ar Shesha, y sarff gosmig y mae Vishnu yn gorffwys arni.
Enghraifft o'r canlynol | avatar, avatar, Hindu deity |
---|---|
Cyfres | Balabhadra |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
I ddilynwyr Vishnu, Krishna yw'r Duwdod Goruchaf y mae popeth yn tarddu ohono. Balarama yw rhithiad (avatar) cyntaf y Duwdod hwnnw, ac ohono mae pob avatar arall yn dod i fodoli. Yn athroniaeth y sat-chit-ananda, mae Balarama yn cynrychioli sat (tragwyddoldeb) a chit (gwybodaeth, deall), ac felly'n cael ei addoli fel 'yr athro mawr' (Adiguru).
Mae'n gymeriad yn y Mahabharata, epig genedlaethol India.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Balarama, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.