Roedd Antar, neu Antarah Ibn Shaddād Al-'Absi (Arabeg: عنترة بن شداد) (bl.
6g), yn fardd yn yr iaith Arabeg ac yn rhyfelwr enwog.
Antar | |
---|---|
Ganwyd | 525 Najd |
Bu farw | 608 Ḥaʼil Province |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Blodeuodd | 6 g |
Cafodd ei eni tua dechrau'r 6g yn yr anialwch rywle yng nghyffiniau dinas Medina (gorllewin canolbarth Saudi Arabia heddiw), yn fab i bennaeth Bedouin a chaethferch ddu. Roedd hyn yn y cyfnod cyn-Islamaidd.
Cyfansoddodd nifer o awdlau arwrol, a chyfrifir un ohonynt yn un o saith 'Awdl Aur' llenyddiaeth Arabeg.
Daeth yn arwr llên gwerin. Dethlir ei fywyd yn y chwedl arwrol Rhamant Antar (10g), sy'n adrodd ei helyntion niferus er mwyn cael priodi ei gariad Abla.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Antar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.