Cymdeithasegydd ac athronydd Awstriaidd oedd Alfred Schutz (13 Ebrill 1899 – 20 Mai 1959) a ddatblygodd syniadaeth gymdeithasol yn seiliedig ar ffenomenoleg.
Alfred Schutz | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1899 Fienna |
Bu farw | 20 Mai 1959 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Awstria, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, cymdeithasegydd, academydd, cerddolegydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Priod | Ilse Schutz |
Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i Alfred a Johann (Fialla) Schütz. Gwasanaethodd yn y fyddin Awstriaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac astudiodd y gyfraith ac economeg ym Mhrifysgol Fienna. Cafodd swydd ysgrifennydd-weithredwr yng Nghymdeithas Bancwyr Awstria, ac yn 1929 dechreuodd weithio i'r banc Reitler. Priododd ag Ilse Heim yn 1926, a chawsant ddau blentyn.
Yn sgil yr Anschluss yn 1938, ffoes Schultz a'i deulu i Baris, ac oddi yno ymfudasant i Unol Daleithiau America yn 1939. Yn Ninas Efrog Newydd, llwyddodd Schutz i ddal gafael ar ei swydd ym manc Reitler. Er na gweithiodd yn academydd llawn-amser, sefydlodd y cyfnodolyn Philosophy and Phenomenological Research yn 1940. Bu'n ddarlithydd ôl-raddedig yn yr Ysgol Newydd ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol o 1943 hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 60 oed. Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ddatblygiad ethnomethodoleg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alfred Schutz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.