Undebwr llafur, diwydiannwr a gwleidydd Llafur o Sais oedd Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham CBE PC (18 Rhagfyr 1910 – 27 Mehefin 1999).
Roedd yn Gadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol o 1961 hyd 1971. Cafodd ei enw ei niweidio, yn enwedig yng Nghymru, oherwydd ei fethiant i ragweld trychineb Aberfan a'i ymddygiad wedi'r drychineb.
Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham | |
---|---|
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1910 Manceinion |
Bu farw | 27 Mehefin 1999 Chertsey |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | George Robens |
Mam | Edith |
Priod | Eva Powell |
Gwobr/au | Medal Albert |
Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham | |
Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol | |
Cyfnod yn y swydd 24 Ebrill 1951 – 26 Hydref 1951 | |
Prif Weinidog | Clement Attlee |
---|---|
Rhagflaenydd | Aneurin Bevan |
Olynydd | Walter Monckton |
Aelod Seneddol dros Wansbeck | |
Cyfnod yn y swydd 1945 – 1950 | |
Rhagflaenydd | Donald Scott |
Olynydd | diddymwyd yr etholaeth |
Aelod Seneddol dros Blyth | |
Cyfnod yn y swydd 1950 – 1960 | |
Rhagflaenydd | crewyd yr etholaeth |
Olynydd | Eddie Milne |
Geni |
Ganwyd ym Manceinion ar 18 Rhagfyr 1910 i deulu tlawd yn y dosbarth gweithiol. Gweithiodd fel negesydd i'r Co-op lleol a gwerthwr ymbareli. Daeth yn swyddog llaw-amser yn undeb y gweithwyr siopau, Usdaw, ym 1935.
Priododd Eva Powell ym 1937 a mabwysiadodd y pâr un fab, Alfred. Bu farw'r Arglwydd Robens yn Chertsey, Surrey, ar 27 Mehefin 1999.
Cafodd Robens ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Wansbeck yn Northumberland ym 1945, gan eistedd yn y sedd honno hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1950. Cafodd ei ethol yn AS dros Blyth ym 1950, a chollodd ei sedd mewn is-etholiad ym 1960. Roedd Robens yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Gweinidog Cludiant o 1945 hyd 1947, ac yn Weinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol o Ebrill hyd fis Hydref 1951. Cafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor ym 1951, a chafodd ei urddo'n Farwn Robens o Woldingham ym 1961.
Gwasanaethodd Robens fel Cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol (1961–71), Cadeirydd y Foundation on Automation and Employment (1962), Llywydd y Gymdeithas Hysbysebu (1963–68), Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Guy (1965–75) ac Ysgol Feddygol a Deintyddol Ysbyty Guy (1974–82), Canghellor Prifysgol Surrey (1966-77), a chyfarwyddwr Banc Lloegr (1966–81).
Pan glywodd newyddion y drychineb, penderfynodd Robens i fynd ati i fynychu seremoni i'w benodi'n Ganghellor Prifysgol Surrey yn lle teithio'n syth i Aberfan. Er hyn, dywedodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru taw Robens oedd yn arwain yr ymdrech gymorth yn y pentref.
Ymwelodd Robens ag Aberfan y Dydd Sul wedi'r trychineb, gan achosi tramgwydd trwy ysmygu sigâr fawr wrth iddo mynd am dro trwy'r pentref. Pan gyrhaeddodd Aberfan, honnodd Robens taw "ffynhonnau naturiol anhysbys" o dan y domen lo oedd achos y drychineb. Roedd y bobl leol yn gwybod am y ffynhonnau, ac yr oeddent yn ymddangos ar fapiau o'r ardal. Cafodd Robens a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol eu condemnio'n llym gan Ymchwiliad Davies. Cynigodd Robens ymddiswyddo, ond gwrthodwyd hyn gan y Bwrdd. Yn ôl yr Athro Iain McLean, a ymchwiliodd i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan, bwriadodd Robens aros yn ei swydd ac ystum yn unig oedd ei gynnig i ymddiswyddo.
Roedd yn gadeirydd y cwmni peirianneg Vickers Limited o 1971 hyd 1979, ac yn gadeirydd Johnson Matthey o 1971 hyd 1983, yn llywydd Cymdeithas Gorfforedig Hysbysebwyr Prydain o 1973 i 1976, yn gadeirydd y Cyngor Diwydiannau Peirianyddol o 1976 i 1980, yn gadeirydd Snamprogetti o 1980 i 1988, ac yn llywydd Snamprogetti o 1988 i 1999.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.