Alexander Graham Bell

Gwyddonydd, dyfeisiwr ac arloeswr blaengar Albanaidd oedd Alexander Graham Bell (3 Mawrth 1847 – 2 Awst 1922), sy'n cael ei gydnabod am ddyfeisio'r teleffôn.

Roedd ei dad, ei dadcu a'i frawd i gyd wedi gwneud gwaith a oedd yn gysylltiedig â llefaru ac ynganu geiriau. Roedd ei fam a'i wraig yn gwbl fyddar, rhywbeth a ddylanwadodd yn fawr ar waith Bell. Yn sgîl ei waith ymchwil ar glyw a llefaru, gwnaeth arbrofion gyda dyfeisiadau clyw ac yn ei dro, arweiniodd hyn ar Bell yn derbyn y patent cyntaf yn yr Unol Daleithiau am y teleffôn cyntaf ym 1876. Serch hynny, ystyriai Bell fod ei ddyfais enwocaf yn amharu ar ei waith go iawn fel gwyddonydd a gwrthododd gael teleffôn yn ei swyddfa. Pan fu farw Bell, roedd ffônau ledled yr Unol Daleithiau wedi tawelu am funud fel teyrnged i'r gwr a'u crëodd.

Alexander Graham Bell
Alexander Graham Bell
LlaisAlexander Graham Bell's Voice.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Mawrth 1847 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1922 Edit this on Wikidata
o diabetes Edit this on Wikidata
Beinn Bhreagh Edit this on Wikidata
Man preswylBrodhead-Bell-Morton Mansion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethffisegydd, peiriannydd trydanol, peiriannydd, person busnes, dyfeisiwr, athro cadeiriol Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol, aelod o fwrdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus aminvention of telephone Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau111 cilogram Edit this on Wikidata
TadAlexander Melville Bell Edit this on Wikidata
MamEliza Bell Edit this on Wikidata
PriodMabel Gardiner Hubbard Edit this on Wikidata
PlantElsie May Grosvenor, Marian Fairchild Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Edison, Gwobr Elliott Cresson, Medal Hughes, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Medal Albert, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Medal John Fritz, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol Edit this on Wikidata
llofnod
Alexander Graham Bell

Yn ystod bywyd Bell, dyfeisiodd eitemau eraill hefyd gan gynnwys ei waith arloesol ar hydroffoils ac aeronauteg. Ym 1888, daeth Bell yn un o sefydlwyr y Gymdeithas National Georgraphic.

Ei Fywyd Cynnar

Ganwyd Alexander Bell yng Nghaeredin, Yr Alban ar y 3ydd o Fawrth, 1847. Roedd ef a'i deulu'n byw yn 16 Stryd South Charlotte, Caeredin, Yr Alban a bellach ceir yno gofnod ar riniog y drws mai yn y fan honno y ganed Bell. Roedd ganddo ddau frawd: Melville James Bell (1845–1870) a Edward Charles Bell (1848–1867). Bu farw ei ddau frawd o'r diciau, Edward ym 1867 a Melville ym 1870. Enw ei dad oedd yr Athro Alexander Melville Bell, a'i fam oedd Eliza Grace (née Symonds). Er iddo gael ei eni fel "Alexander", pan oedd yn ddeg oed, plediodd ar ei dad i roi enw canol iddo fel oedd gan ei frodyr. Ar ei 11eg benblwydd, cytunodd ei dad a chafodd yr enw canol "Graham", enw a ddewiswyd o'i edmygedd at Alexander Graham, gwr o Giwba a gafodd ei drin gan ei dad ac a ddaeth yn ffrind i'r teulu.

Cyfeiriadau

Tags:

184719222 Awst3 MawrthUnol DaleithiauYr Alban

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Sophie WarnyEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Siôr III, brenin y Deyrnas UnedigPandemig COVID-19Siot dwad wynebRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruTymhereddDie Totale TherapieIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanCawcaswsWicidestunGary SpeedDinas Efrog NewyddDrudwen fraith AsiaGlas y dorlanPreifateiddioWinslow Township, New JerseyJac a Wil (deuawd)Bibliothèque nationale de FranceTeotihuacánMinskCwmwl OortNasebyCyfnodolyn academaiddHong CongPobol y CwmHolding HopeUndeb llafurMarco Polo - La Storia Mai RaccontataAnwythiant electromagnetig1942Ysgol Gyfun Maes-yr-YrfaRSSDonostiaCreampieHalogenComin WicimediaTecwyn RobertsCilgwriBrenhinllin QinMy MistressISO 3166-1TsiecoslofaciaParth cyhoeddusSix Minutes to MidnightHannibal The ConquerorHTTPAriannegTony ac AlomaRocynCariad Maes y FrwydrRhian Morgan2018Sant ap CeredigOmo GominaElin M. JonesBrenhiniaeth gyfansoddiadolStorio dataIncwm sylfaenol cyffredinolKazan’Y Deyrnas UnedigY CeltiaidWilliam Jones (mathemategydd)Faust (Goethe)Peiriant WaybackPalesteiniaid🡆 More