Agoriadau Gwyddbwyll

Cyfres o symudiadau ar ddechrau gem o Wyddbwyll yw Agoriad Gwyddbwyll.

Mae symudiadau safonol, cydnabyddedig fel hyn ar ddechrau gem yn cael eu galw'n Amddiffyniad neu Agoriad, ac yn aml yn dwyn enw person, gwlad, disgrifiad o beth sy'n digwydd, neu ddisgrifiad o siap y darnau ar y bwrdd Gwyddbwyll. Mae un agoriad wedi ei enwi ar ôl Cymro, sef Gambit Evans.

Pan fod chwaraewr yn dilyn patrwm cydnabyddedig o symudiadau dywedir ei fod yn gwneud "symudiadau llyfr", ac mae symudiadau anarferol yn yr agoriad yn cael eu disgrifio fel "newydd-deb damcaniaethol". Mae theori agoriadau yn dal i ddatblygu ac esblygu, ac mewn rhai achosion mae chwaraewyr yn cofio hyd at 20 o symudiadau agoriadol safonol mewn agoriad arbennig. I'r rhan fwyaf o chwaraewyr gwyddbwyll gall agoriad bara rhwng 5 a 10 symudiad cyn symud i'r gem ganol. Mae chwaraewyr proffesiynol yn treulio amser hir yn astudio'r agoriadau, gan astudio hefyd agoriadau eu gwrthwynebwyr yn drylwyr i chwilio am gyfleoedd.

Mae gem wyddbwyll fel arfer yn cael ei rhannu yn Agoriad, Gem ganol, a Terfyniad. Mae Agoriadau Gwyddbwyll yn cael eu categoreiddio mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Un ffordd o'u rhannu yw fel hyn:

Nodau mewn agoriad

Gwyn sy'n dechrau gem ac mae ganddo ugain opsiwn wrth wneud hynny. Gall symud un o'i Werinwyr un sgwar neu ddau sgwar, ac mae ganddo ddewis o ddau sgwar yr un i symud ei ddau Farchog. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn dueddol o symud naill ai un o'u dau Gwerinwr canolog o d2-d4, neu e2 i e4, neu yn agor drwy symud Marchog i f3 neu c3.

Mae nifer o egwyddorion sylfaenol yn bwysig mewn Agoriad Gwyddbwyll:

  1. Datblygu darnau: Un o brif nodau agoriad yw i osod darn ar sgwar ble fydd yn ddefnyddiol yn y gem. Datblygu darn yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio am symud darn fel hyn. Bydd Marchog fel arfer yn cael ei symud i f3, c3, f6 neu c6, ac weithiau i e2, d2, e7 neu d7). Bydd Gwerinwr ffeiliau d ac e yn cael eu symud i geisio rheoli canol y bwrdd, ac i roi lle i ddatblygu Esgob. Ffordd arall o ddatblygu Esgob yw y Fianchetto. Mae'n nod gan y ddau chwaraewr i ddatblygu darnau'n gyflym, a thrwy hynny i greu amddiffyn cadarn a chyfleoedd ymosodol. Nid yw'r Frenhines fel arfer yn cael ei datblygu yn ystod symudiadau cyntaf yr agoriad.
  2. Rheoli'r Canol: Mewn nifer o agoriadau gwyddbwyll un nod amlwg yw i geisio rheoli'r sgwariau canol, sef d4, d5, e4 ac e5. Drwy rheoli'r rhain mae modd bygwth neu reoli sgwariau pwysig eraill, a symud darnau ar draws y bwrdd yn haws. Yn draddodiadol credwyd mai'r ffordd orau o reoli sgwar canol oedd drwy osod Gwerinwr arno a datblygu Marchogion ac Esgobion i gefnogi'r sgwar ble mae angen. Gelwir y ffordd hon o feddwl am agoriadau gwyddbwyll yn ffordd glasurol, ac mae agoriadau sy'n ceisio rheoli'r canol yn aml yn cael eu digrifio fel Agoriadau Clasurol. Serch hynny mae ffordd gymharol newydd o feddwl am agoriad wedi datblygu yn ystod yr 20g, sef y ffordd hyperfodern.
  3. Diogelu'r Brenin: Gan bod y Brenin yn dechrau gem wyddbwyll ar ganol y bwrdd mewn man cymharol agored mae'n syniad i geisio amddiffyn y Brenin drwy ei symud i fan mwy diogel. Y ffordd mwyaf poblogaidd o wneud hynny yw drwy Castellu, symudiad sy'n rhoi'r Brenin mewn man mwy diogel ac yn datblygu'r Castell.
  4. Strwythur Gwerinwyr: Nod arall mewn Agoriad Gwyddbwyll yw i greu strwythur cadarn i'r Gwerinwyr. Golyga hyn fel arfer ceisio osgoi Gwerinwr wedi ei hynysu, Gwerinwyr wedi dyblu ar ffeil, neu Werinwr ar ôl. Mae strwythur y Gwerinwyr mewn gem yn dylanwadu'n fawr iawn ar strategaeth chwaraewr.

Cyngor pellach wrth agor

  • Cymer ofal wrth symud Gwerinwyr
  • Datblyga dy ddarnau llai yn gynnar
  • Paid cau llwybr dy Esgob gyda Gwerinwr
  • Datblyga'r Marchog am mewn nid am mas, i c3 ac f3 os bosib, nid a3 a h3
  • Cliria dy reng ôl
  • Paid ymosod yn gynnar gyda'r Frenhines
  • Datblyga'r Castell ar ffeil agored
  • Mae'n werth Castellu'n gynnar mewn gem agored
  • Mae'n werth oedi cyn Castellu os yw'n ddiogel i wneud hynny
  • Ceisia atal dy wrthwynebydd rhag Castellu
  • Er nad yw bob amser yn bosib i wneud hynny, ceisia ddilyn yr egwyddor hon: paid symud darn eilwaith nes dy fod wedi wedi symud dy ddarnau i gyd unwaith

Dolenni allanol

Tags:

CymroGambit EvansGwyddbwyll

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CymrySwleiman IFideo ar alwSupport Your Local Sheriff!LerpwlLliwBlaengroenR.E.M.ThelemaBaionaFfilm bornograffigPussy RiotEliffant (band)2018Cefn gwladRSSThe Next Three DaysParth cyhoeddusAwstraliaGorllewin SussexScarlett JohanssonY CarwrLlywelyn ap GruffuddMartha WalterLeigh Richmond RooseNorthern SoulGwlad PwylLlanfaglanRhifWuthering HeightsSurreyCaethwasiaethByseddu (rhyw)Cynnyrch mewnwladol crynswthCymdeithas Ddysgedig CymruHirundinidae24 EbrillWicilyfrauPalas HolyroodWsbecistanMargaret WilliamsFfilm gomediYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaSouthseaRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainCastell y BereMaría Cristina Vilanova de ÁrbenzWcráinAnne, brenhines Prydain FawrAnnie Jane Hughes GriffithsBangladeshGweinlyfuBae CaerdyddLa Femme De L'hôtelAlan Bates (is-bostfeistr)Eglwys Sant Baglan, LlanfaglanWsbecegPerseverance (crwydrwr)Comin Wikimedia13 EbrillTony ac AlomaMorocoYsgol Dyffryn AmanCuraçao🡆 More