Y Frenhines yw'r darn mwyaf pwerus ar y bwrdd Gwyddbwyll oherwydd gall symud naill ai ar hyd llinell syth, neu ar hyd llinell letraws.
Ar ddechrau'r gêm mae gan bob chwaraewr un Frenhines yr un wedi eu gosod yng nghanol y rhes gyntaf nesaf at y Brenin. Mae'r Frenhines wen yn dechrau ar sgwar golau, a'r un ddu ar sgwar tywyll.
Gall Brenhines deithio unrhyw bellter i un cyfeiriad ar y tro, cyn belled â bod dim byd ar y sgwâr i'w hatal. Gall Brenhines symud ymlaen ac yn ôl. Nid yw'n gallu neidio dros ddarnau eraill, ac nid yw'n gallu symud fel y Marchog. Oherwydd mai'r Frenhines yw'r darn mwyaf pwerus mae chwaraewyr fel arfer yn dewis dyrchafu gwerinwr yn Frenhines os yw'n cyrraedd yr wythfed rheng.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brenhines (gwyddbwyll), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.