Hen sinema a agorwyd ar Stryd Fawr Abertawe ar 11 Ebrill, 1914 ydy Adeilad yr Elysium.
Eisteddle sengl a gynlluniwyd gan gwmni Ward & Ward o'r Strand, Llundain ydoedd ac roedd ganddo ffasâd Edwardaidd. Roedd yno 900 o seddau ynddo. Lleolwyd Neuadd Gweithwyr Dociau Abertawe yn yr adeilad, a bu'n gartref i'r Blaid Lafur lleol.
Math | sinema |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.624365°N 3.941676°W |
Yn ystod y 1920au a'r 30au, roedd neuadd ddawns yr adeilad yn fan poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth dawnsio band, tra bo'r sinema'n parhau i fod yn llwyddiannus uwch ben. Arhosodd y sinema a'r neuadd lafur ar agor trwy gydol yr Ail Rhyfel Byd, gan gynnwys pan gafodd y ddinas ei bomio'n drwm gan y Luftwaffe. Y Stryd Fawr oedd canolbwynt y ddinas bryd hynny, ac ar ôl cyfnod o dridiau o fomio, dim ond yr Elysium ac un adeilad arall oedd wedi goroesi. Pan ddaeth y rhyfel i ben, ail-ddatblygwyd canol y ddinas gan ei symud i Ffordd y Brenin gan adael yr Elysium ar gyrion y ddinas. Oherwydd hyn, lleihaodd y nifer o bobl a aeth i'r Elysium. O ganlyniad, caeodd y sinema ym 1960 a daeth yn neuadd fingo annibynnol tan 1994. Parhaodd y Blaid Lafur ar lawr waelod yr adeilad tan 1998. Ers hynny, mae'r adeilad wedi cael ei fordio er mwyn atal tresmaswyr.
Mae gan yr adeilad baneli Larvikite du ar ei du blaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adeilad yr Elysium, Abertawe, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.