Addysg plant yn y cartref yw addysg gartref, gan amlaf gan rieni ond weithiau gan diwtoriaid, yn hytrach na ysgol y wladwriaeth neu ysgol breifat.
Er yr oedd addysgu o fewn y teulu neu'r gymuned yn ddull traddodiadol cyn i gyflwyniad ddeddfau sy'n gwneud mynychu ysgol yn orfodol, mae addysg gartref yn yr ystyr fodern yn ffordd amgen o addysgu mewn gwledydd datblygedig sydd yn ddewis arall i sefydliadau addysg a reolir gan lywodraethau neu'r sector preifat.
Gall rhieni benderfynu i roi addysg gartref i'w plant am amryw o resymau. Ymysg y cymhellion mwyaf cyffredin yw crefydd, trefniadau byw (gan amlaf byw yng nghefn gwlad neu mewn cartref dros dro), cost, argraff wael o lwyddiant ac amgylchedd addysg gyhoeddus, gwrthwynebiad i'r hyn a addysgir mewn ysgolion lleol, a chred taw'r cartref yw'r lle gorau i blant ddatblygu'n foesol ac yn academaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Addysg gartref, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.