Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith Fengaleg (Bangla) ym Mangladesh yw'r Academi Bangla (Bengaleg: বাংলা একাডেমী ; Saesneg: Bangla Academy).
Cafodd ei sefydlu ar 3 Rhagfyr 1955. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws Prifysgol Dhaka, ger Parc Ramna yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.
Enghraifft o'r canlynol | rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1955 |
Pennaeth y sefydliad | Director General of Bangla Academy |
Pencadlys | Dhaka |
Gwladwriaeth | Bangladesh |
Gwefan | http://banglaacademy.gov.bd/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr Academi yn dilyn cyfnod o ymgyrchu am hawliau ieithyddol gan fudiadau protest fel Bhasha Andolon ac addewid cyn etholiad 1954 gan y Ffrynt Unedig i greu'r ganolfa. Dywedodd eu maniffesto: "The prime minister from the United Front will dedicate the Bardhaman House for establishing a research centre for Bengali language".
Prif orchwyl yr Academi yw cynnal gwaith ymchwil ar yr iaith Fengaleg, a'i diwylliant a hanes, a chyhoeddi gwaith llenyddol ac academaidd amdanynt. Mae wedi sefydlu Gwobr yr Academi Bangla, a roddir yn flynyddol am gyfraniadau llenyddol ac academaidd yn yr iaith.
I goffhau Bhasha Andolon a Diwnrod Merthyron yr Iaith, mae'r Academi yn cynnal Ffair Lyfrau Ekushey, y ffair lyfrau fwyaf yn y wlad, sy'n rhedeg am fis bob blwyddyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Academi Bangla, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.