Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes).
Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).
Édouard Manet | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1832 former 10th arrondissement of Paris |
Bu farw | 30 Ebrill 1883 8fed Bwrdeisdref Paris, Paris |
Man preswyl | 8fed Bwrdeisdref Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, lithograffydd, drafftsmon, drafftsmon |
Adnabyddus am | The Fifer, Street Singer, Lola de Valence, Luncheon on the Grass, Olympia |
Arddull | portread, peintio genre, bywyd llonydd, celf tirlun, paentiadau crefyddol |
Prif ddylanwad | Thomas Couture |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Tad | Auguste Manet |
Mam | Eugénie-Désirée Fournier |
Priod | Suzanne Manet |
Plant | Léon Leenhoff |
Perthnasau | Berthe Morisot |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Édouard Manet, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.