Nofelydd o Gymru a ysgrifennai yn Saesneg oedd Louisa Matilda Spooner, ffugenw LMS (1820 – 5 Rhagfyr 1886).
Cafodd ei geni ym Maentwrog. Roedd hi'n ferch i'r peiriannydd rheilffordd James Spooner. Bu farw ym Mhortmadog, heb briodi.
Louisa M. Spooner | |
---|---|
Ganwyd | 1820 |
Bu farw | 1886 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd |
Ysgrifennodd dair nofel:
Canolbwyntiodd yn ei nofelau yn bennaf ar bynciau'n gysylltiedig â Chymru ac o safbwynt Cymreig. Yn Gladys of Harlech, defnyddiodd Spooner gefndir Rhyfeloedd y Rhosynnau i drafod Cymreictod yn ei pherthynas â choron Lloegr. Yn Country Landlords, bu’n trafod perchnogaeth tir a gweriniaetholdeb yng nghyd-destun y Risorgimento yn yr Eidal yn ystod 19eg ganrif, tra bod The Welsh Heiress yn ymwneud ag effaith alcoholiaeth ar gymunedau ffermio. Mae ei holl nofelau wedi’u gosod yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Louisa M. Spooner, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.