Argraffu 3D yw'r broses o greu gwrthrych 3 dimensiwn solad o unrhyw siap allan o fodel digidol.
Ychwanegir haenau o ddefnydd nes ffurfio'r siap a gynlluniwyd ar gyfrifiadur. Y gwahaniaeth pennaf rhwng y math hwn o argraffu a'r dull confensiynol yw fod argraffu 3D yn ychwanegu defnydd tra bod argraffu traddodiadol yn tynnu defnydd drwy ei dorri neu ei ddrilio. Mae'r argraffydd 3D yn fath o robot diwydiannol syml wedi'i reoli gan gyfrifiadur.
Argraffydd ORDbot Quantum 3D. | |
Enghraifft o'r canlynol | proses gynhyrchu, list of manufacturing processes |
---|---|
Math | proses peirianyddol, peirianneg cynhyrchu, additive manufacturing |
Y gwrthwyneb | peiriannu |
Cynnyrch | cyfarpar gwaith, gwrthrych 3-dimensiwn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crewyd yr argraffydd 3D cyntaf ym 1984 gan Chuck Hull o gwmni 3D Systems Corp. Cymhwyswyd argraffu 3D ar y cychwyn ar gyfer prototeip ar ddechrau'r 1980au ac er y sylweddolwyd cryfder a photensial y dull hwn fe gymerodd sawl degawd i gael y dechnoleg yn ei lle; cychwynwyd mas-gynhyrchu nwyddau yn y 2010au pan welwyd llawer o argraffyddion AM yn cael eu gwerthu am brisiau gymharol isel. Yn ôl Wohlers Associates roedd y farchnad ar eu cyfer yn werth $2.2 biliwn ledled y byd yn 2012 - 29% yn uwch nag amcangyfrif y flwyddyn flaenorol.
Defnyddir cynnyrch wedi'u creu drwy argraffyddion 3D mewn pensaerniaeth, cynllunio diwydiannol, ceir, awyrenau, y fyddin, deintyddiaeth, dillad, addysg, bwyd a llawer iawn o feysydd eraill. Mae Grŵp Cymwysiadau Meddygol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn defnyddio'r dechneg i adeiladau prostheses.
O fewn diwydiant, mae cynllunwyr a gwneuthurwyr yn defnyddio math sy'n uno'r ddau ddull o dynnu ac ychwanegu haenau gydag un peiriant. O ddefnyddio cod agored credir fod potesial aruthrol i'r cwsmer safio arian drwy greu ei gyfarpar ei hun yn hytrach na thalu amdano i drydydd person ac am gost cludiant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Argraffu 3D, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.